Kiera Marshall yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Caerdydd.
Er na chafodd ei geni yn y ddinas – mae Kiera wedi ymagrtrefu yng Ngorllewin Caerdydd bellach.
Cafodd ei geni yn Abertawe a’i magu ar un o stadau cyngor mwyaf difreintiedig Cymru, Townhill. Gwelodd drosti ei hun effaith polisïau llymder y Torïaid, yn ogystal â chanlyniadau setliad gyfansoddiadol annheg. Gyda chymorth rhaglenni fel LCA a gostyngiad ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru, llwyddodd i fynychu’r London School of Economics lle bu’n astudio Economeg a Gwleidyddiaeth. Mae sicrhau bod Cymry ifanc eraill yn cael cyfleoedd tebyg yn eu haddysg yn arbennig o bwysig i Kiera.
Cafodd Kiera rôl fel ymchwilydd economaidd yn y Senedd i Blaid Cymru. Wedi hynny treuliodd flwyddyn yn gweithio fel Dirprwy Bennaeth Polisi i’r Ffederasiwn Busnesau Bach, cyn dychwelyd i weithio fel ymchwilydd economaidd.
Ar ôl bod yn dyst i dlodi a dirywiad cymunedau fel person ifanc, bydd ymgyrch Kiera yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau hyfyw, uchelgeisiol i bawb. Mae hi eisiau creu amgylchedd cefnogol ar gyfer busnesau bach, lleol er mwyn creu a chadw cyfoeth yng Nghymru. Mae hi hefyd eisiau gwella mynediad i addysg a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol fel bod ein holl bobl ifanc yn cael cyfle teg i lwyddo yng Nghymru.
Mae Kiera yn dysgu Cymraeg ac mae’n gobeithio dod yn rhugl. Mae’n gobeithio bod ei thaith i ddysgu Cymraeg yn dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb a bod Plaid Cymru hefyd yn blaid i bawb.
Mae Kiera yn edrych ymlaen at ymgyrchu yng Ngorllewin Caerdydd a helpu i rymuso'r gwahanol gymunedau yn yr etholaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r ardal!