Etholaeth: Gŵyr

Kieran Pritchard

Kieran Pritchard yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Gŵyr.

Mae Kieran Pritchard yn 24 oed ac mae wedi byw a gweithio yng Ngŵyr ar hyd ei oes. Astudiodd wleidyddiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd. Mae Kieran wedi bod yn aelod gweithgar o Blaid Cymru ers sawl blwyddyn ac mae'n ysgrifennydd ar gangen etholaeth Gŵyr.

Bydd Kieran yn brwydro i gadw cyfoeth o fewn Gŵyr drwy hyrwyddo economi gylchol yn seiliedig ar bolisïau gwyrdd. Gyda 30% o’n plant mewn tlodi a 34,000 o bobl yn aros am dai cymdeithasol, byddai Kieran yn ymgyrchu i ddileu digartrefedd a thlodi plant yng Ngŵyr.