Mewn sylw wedi i Lafur, UKIP a’r Torïaid ddod at ei gilydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i bleidleisio i ddiddymu Deddf Parhad Cymru, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion allanol, Steffan Lewis AC:
“Bwriad y Ddeddf Parhad oedd darparu gwarchodaeth gyfreithiol i setliad datganoli Cymru ar ffurf tarian ddeddfwriaethol.
“Mae dibynnu’n unig ar y Cytundeb Rhyng-lywodraethol yn golygu ymddiried yn Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i barchu datganoli Cymru, er nad ydynt wedi dangos dim ond dirmyg tuag at y cenhedloedd datganoledig trwy gydol proses trafodaethau Brexit.
“O ystyried ein bod yn gwybod nad yw Drafft Cytundeb Ymadael Llywodraeth y DG yn cwrdd â dyheadau Sicrhau Dyfodol Cymru, sef polisi Llywodraeth Cymru, does dim synnwyr o gwbl mewn hwyluso dymuniadau llywodraeth y DG trwy ddiddymu ein Deddf Parhad.
“Mae gweithredoedd y Blaid Lafur o bleidleisio ochr yn ochr ag UKIP a’r Ceidwadwyr yn paratoi’r ffordd ar gyfer Brexit Torïaidd caled, rhywbeth y bydd yn rhaid iddynt hwy ei gyfiawnhau i’w cefnogwyr.
“Mae Plaid Cymru yn ail-ddatgan ein galwad am Bleidlais y Bobl gydag Aros ar y papur pleidleisio, i roi cyfle i bobl osgoi’r ffurf ddinistriol ar Brexit y mae Cymru’n wynebu yn awr.”