Mae Gwrthblaid Llafur y DG yn rhoi siec gwag ar Brexit i Theresa May, meddai Leanne Wood wrth raglen y BBC Sunday Politics Wales.
Yn dilyn pleidlais yr wythnos ddiwethaf yn y senedd ar gynllun Brexit Llywodraeth y DG, a thra bo’r achos yn mynd rhagddo yn y Goruchaf Lys, tynnodd arweinydd Plaid Cymru sylw at y ffaith yr ymddengos fod y blaid Lafur wedi cefnogi cynllun Brexit y Torïaid cyn ei weld, hyd yn oed.
Dadleuodd fod “bwlch craffu” yn bodoli lle mae rhaniadau ym mhlaid Lafur San Steffan yn golygu na all Llafur fod yn ddigon cadarn o ran sicrhau nad yw’r Torïaid yn mabwysiadu cynllun Brexit sy’n gwanhau economi Cymru.
Ar ddydd Iau (8 Rhagfyr), aeth y blaid Lafur tuag yn ôl mewn is-etholiad San Steffan am yr eildro yn olynol, sydd yn arwydd o ddryswch arwyddocaol ynghylch lle mae’r blaid yn sefyll ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ni fydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio dros unrhyw gynllun Brexit sydd yn niweidio Cymru, ac y mae’r blaid wedi bod yn llafar ei gwrthwynebiad i bosibilrwydd ‘Brexit Caled’ yn y Cynulliad Cenedlaethol, Seneddau’r DG ac Ewrop.
Dywedodd Leanne Wood:
“Mae Llafur yn rhanedig ar Brexit yn San Steffan, sydd yn eu hatal rhag wynebu’r Torïaid a dal Llywodraeth y DG i gyfrif. Yn y ddadl yr wythnos ddiwethaf, yr hyn wnaeth ASau Llafur mewn gwirionedd oedd cefnogi cynllun Brexit Llywodraeth y DG heb ei weld.
“Maent yn rhoi siec gwag ar Brexit i Theresa May, ac yn caniatáu bwlch craffu.
“Mae ymddiried yn y Torïaid i gyflwyno bargen dda i Gymru yn strategaeth sydd yn mynd yn hollol groes i bob tuedd mewn hanes modern.
“Nid yw’r ddadl genedlaethol ynghylch a fydd Brexit yn digwydd neu beidio. Mae’n fater o pa fath o Brexit sy’n digwydd. Does dim mandad dros Brexit Caled, a Phlaid Cymru yw’r unig lais penodol Cymreig yn San Steffan sy’n dweud hyn. Mae’n rhaid i ni wrthwynebu’n gryf yr awgrym fod cwestiynau’r math o Brexit fydd yn digwydd yn golygu eich bod yn cwestiynau’r refferendwm.
“Yng Nghymru, rhaid i ni yn awr sicrhau pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol ar Erthygl 50 ac ar delerau unrhyw fargen ar Brexit. Rhaid i’r Prif Weinidog Llafur sicrhau’r gwarantau hyn gan Brif Weinidog y DG, fel y gallwn osgoi dod yn rhan o fargen sy’n ddrwg i Gymru.”