Mae Plaid Cymru yn credu bod Cymru ar ei ennill wrth aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Peidiwch a gwrando ar rheiny sy’n ceisio codi pryderon di-sail.
Bydd tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd ddim yn stopio mewnfudo.
Bydd e ddim yn rhoi mwy o arian i’n gwasanaeth iechyd.
Ond bydd e yn creu ansicrwydd o ran yr economi a swyddi.
Dyw’r Undeb Ewropeaidd ddim yn berffaith ond mae hi yn rhoi llais i Gymru yn y byd. Dyw San Steffan ddim.
Mae gan yr Undeb Ewropeaidd bolisi o ail-ddosbarthu cyfoeth i’r ardaloedd tlotaf, ac mae Cymru yn elwa o hyn.
Mae’r Toriaid yn San Steffan wedi dweud na fyddan nhw’n sicrhau fod yr arian hwn yn dal i ddod i Gymru petawn ni’n pleidleisio i adael.
Wrth aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd gallwn sicrhau y bydd Cymru yn parhau i fod yn bartner yn y teulu o genhedloedd Ewropeaidd.
Pleidleisiwch i aros ar Fehefin dau ddeg tri.