Leanne Wood yn cyhudddo swyddfa gartref y DG o ‘erlid’ ceiswyr lloches LGBT

4221396001_5843889775001_5843888815001-vs.jpg

Mae gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Leanne Wood AC wedi cyhuddo Swyddfa Gartref y DG o erlid pobl LGBT sy’n ceisio lloches yn y DG.

Wrth siarad cyn Pride Cymru y penwythnos hwn, dywedodd Ms Wood fod system lloches y DG yn camwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT. Dywedodd Ms Wood fod gofyn i geiswyr lloches LGBT “brofi eu rhywioldeb” yn “absẃrd ac yn sarhaus” gan ychwanegu fod y Swyddfa Gartref yn wfftio unrhyw dystiolaeth a gyflwynir iddynt gan y rhai sy’n ffoi oherwydd eu rhywioldeb.

Gan nodi fod angen Pride o hyd “fel protest” yn erbyn y driniaeth gaiff pobl LGBT ledled y byd – a chan gynnwys gan Swyddfa Gartref y DG – awgrymodd Ms Wood hefyd y byddai system fewnfudo Gymreig yn gyfle i “wneud pethau’n wahanol”, i warchod ceiswyr lloches rhag erledigaeth a marwolaeth a gwneud Cymru yn “wir genedl lloches.”

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhuddodd Abderrahim El Habachi, dyn ifanc hoyw a ffodd o Foroco i Abertawe ddwy flynedd yn ôl gan ofni am ei fywyd, Swyddfa Gartref y DG o roi ceiswyr lloches LGBT “trwy uffern”.

Adroddwyd ddoe fod apêl ceisiwr lloches wedi ei wrthod am nad oedd y barnwr yn tybio ei fod yn ddigon ‘merchetaidd’ i fod yn hoyw ac nad oedd ganddo ‘ymarweddiad’ hoyw.

Dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol Leanne Wood AC,

“Mae pobl LGBT sy’n ceisio lloches yn y DG yn wynebu camwahaniaethu difrifol yn y system. Fel rhan o’r broses o gael eu cydnabod fel ffoaduriaid, rhaid iddynt “brofi eu rhywioldeb” – cysyniad a fyddai, mewn unrhyw sefyllfa arall, yn cael ei ystyried yn absẃrd a sarhaus.

“Mewn llawer o achosion, yr unig “dystiolaeth” a all fod gan unigolyn yw ei eiriau ei hun, ac y mae datgelu i ddieithryn llwyr sydd â’ch bywyd yn ei ddwylo fanylion mor bersonol am eich bywyd preifat yn anodd ac fe all godi ofn. Yn aml, hyd yn oed os oes gan rywun dystiolaeth ysgrifenedig neu gorfforol, bydd y Swyddfa Gartref yn ei wfftio neu’n ei anwybyddu, gan amau fod ceiswyr lloches yn dweud celwydd am eu rhywioldeb.

“Dyna pam fod angen Pride o hyd. Y mae’n ddathliad, ond yn brotest hefyd yn erbyn y camwahaniaethu mae pobl LGBT yn dal i’w wynebu. Ni ddylai neb orfod dioddef y gwarth a’r erledigaeth y mae’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd yn achosi i geiswyr lloches LGBT.

“Tra bod Llywodraeth y DG yn mynd ati’n fwriadol i greu agenda o amgylchedd gelyniaethus, gall Cymru ddewis gwneud pethau’n wahanol. Petae gennym bwerau dros loches a mewnfudo, byddai modd i ni warchod ein ceiswyr lloches a sicrhau na fydd y rhai sy’n ffoi rhag cael eu herlid oherwydd eu rhywioldeb yn dioddef camwahaniaethu na’u hanfon yn ôl i wlad lle gallant gael eu lladd. Gallai Cymru ddod yn wir genedl lloches.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.