LGBTQ+
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Geidwadol y DG wedi ymdrechu i greu rhaniadau mewn cymdeithas trwy greu cyfres o ryfeloedd diwylliannol honedig sy’n defnyddio pobl go-iawn a phrofiadau gwirioneddol pobl yn eu herbyn.
Credwn fod pawb a phob cymuned yn haeddu parch.
Yr ydym yn ail-ddatgan ein hymrwymiad i sicrhau y clywir lleisiau a phrofiadau LGBTQ+ a byddwn yn parhau i hyrwyddo hawliau LGBTQ+. Byddwn yn hyrwyddo cynhwysiant LGBTQ+ ledled cymdeithas, gan gynnwys mannau gwaith a chymryd rhan mewn chwaraeon, fel rhan o ymdrech ehangach tuag at ddull iachach o fyw.
Byddai Plaid Cymru yn rhoi diwedd ar arferion therapi trosi honedig yng nghyswllt rhywioldeb a hunaniaeth rhywedd.
Yr ydym yn pryderu am y cynnydd mewn troseddau casineb dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn y gymuned LGBTQ+, yn enwedig trawsffobia, a rhaid i’n heddluoedd fynd i’r afael â hyn.
Yn yr un modd, fel rhan o’u hymdrechion i estyn allan i’r gymuned, buasem yn disgwyl i’r heddlu fod yn hyrwyddo cadarnhau ac ymddiriedaeth, gan ffurfio cysylltiadau gyda phob adran leiafrifol mewn cymdeithas, e.e., mynychu digwyddiadau Pride lleol a digwyddiadau hybu amrywiaeth yn y gymuned.
Byddwn yn parhau i ymladd dros gydraddoldeb i bobl draws. Wedi sicrhau cyllid cyson i Glinig Hunaniaeth Rhywedd i Gymru fel y gall pobl dderbyn cefnogaeth yma yng Nghymru, yn hytrach na gorfod teithio i Lundain, byddwn yn gweithio i wella’r ddarpariaeth a sicrhau mynediad prydlon at wasanaethau a chefnogaeth.
Bydd Plaid Cymru yn ceisio pwerau i roi cynnig gerbron y Senedd am system symlach o hunan-uniaethu rhywedd sydd heb gysylltiad meddygol.