Etholaeth: Caerffili

Lindsay Whittle

Lindsay Whittle yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Caerffili.

Mae Lindsay wedi gwasanaethu Caerffili fel cynghorydd ers 48 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n gynghorydd dros ward Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Yn ddiweddar, mae wedi ymgyrchu yn erbyn y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd arfaethedig a fydd yn golygu dymchwel swyddfa docynnau hanesyddol. Mae hefyd wedi ymgyrchu'n erbyn camreolaeth y cyngor Llafur o brosiect Ffos Caerffili ac wedi gwrthwynebu cau Coffi Vista, sy'n cynnwys y ganolfan gwybodaeth i dwristiaid a chyfleusterau cyhoeddus.

Mae Lindsay yn gyn-reolwr cartrefi yng Nghaerdydd – gyrfa a ddilynodd am 25 mlynedd. Bu hefyd yn arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili rhwng 1999 a 2004 a 2008-2011. Roedd Lindsay yn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol rhwng 2011 a 2016, yn cynrychioli rhanbarth de-ddwyrain Cymru.

Mae’n gadeirydd llywodraethwyr ei gyn ysgol, Ysgol Gynradd Cwm Ifor yng Nghaerffili, yn gwirfoddoli mewn dwy ysgol gyda phrosiect Llythrennedd 707, yn ogystal â gwirfoddoli yn siop goffi Eglwys Gymunedol Oasis ac ym manc bwyd Spirit Church yn nhref Caerffili.