Etholaeth: Dwyfor Meirionnydd

Liz Saville Roberts

Etholwyd Liz Saville Roberts am y tro cyntaf yn 2015, y fenyw gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cadwodd ei gafael ar y sedd yn etholiadau brys 2017 a 2019 gyda chyfran sylweddol uwch o'r bleidlais.

Yn wreiddiol o Eltham yn ne Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Cyn hynny bu’n gweithio fel newyddiadurwr yn Llundain a gogledd Cymru, ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor lle bu’n arwain ar addysg Gymraeg. Cyn ei hethol i’r Senedd, roedd Liz yn Gynghorydd Sir Gwynedd rhwng 2004 a 2015, yn cynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn.

Yn 2017, penodwyd Liz yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru San Steffan ac mae’n llefarydd i'r blaid ar Faterion Cartref, Trafnidiaeth, Menywod a Chydraddoldeb, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a Chyfiawnder. Cafodd ei phenodi i'r Cyfrin Gyngor yn 2019.

Yn 2016, urddwyd Liz i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ac yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau marchogaeth a cherdded. Mae’n byw ym Mhen Llŷn gyda’i gŵr Dewi ers 1993, ac mae ganddynt ddwy ferch, Lowri a Lisa.