Plaid Cymru: Llafur wedi torri eu haddewid am oriau agor meddygfeydd meddygon teulu

Stethoscope_Hush_Naidoo_on_Unsplash.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC wedi condemnio Llywodraeth Cymru am fethu â chyflawni un o’u haddewidion allweddol o faniffesto  Llafur yn 2011 am wneud apwyntiadau meddygon teulu yn fwy hygyrch i bobl sy’n gweithio.

Yn eu maniffesto yn 2011, addawodd Llafur drefnu bod mwy o wasanaethau meddygon teulu lleol ar gael gyda’r nos ac ar foreau Sadwrn. Ac mewn datganiad yn y Senedd yn 2021, gosododd y Gweinidog Iechyd allan y camau fyddai’n digwydd mewn tri chyfnod rhwng 2012/13 a 2014/15.

Bryd hynny, roedd y gwaith wedi ei fwriadu i gynnwys gwneud mwy o apwyntiadau ar gael yn ystod oriau craidd, peri bod mwy o apwyntiadau ar gael cyn 8.00 am ac ar ôl 6.30 pm, a threfnu bod mwy o apwyntiadau ar gael ar benwythnosau.

Ond dangosodd dadansoddiad o arolwg Mynediad at Feddygon Teulu Ystadegau Cymru rhwng 2012 a 2018 mai tameidiog iawn fu’r cynnydd, a bod y ddarpariaeth mewn gwirionedd wedi gostwng o ran apwyntiadau y tu allan i oriau craidd ac ar benwythnosau.

Cyfnod I – 2012/13

Dangosodd yr arolwg amrywiadau rhanbarthol eang iawn mewn cynnydd tuag at beri bod mwy o apwyntiadau ar gael yn ystod oriau craidd, gyda gostyngiad cyffredinol mewn tri bwrdd iechyd, a dim ond 16% o bob meddygfa yn cynnig apwyntiadau rhwng 6 a 6.30 pm.

Cyfnod II – 2013/14

Dangosodd yr arolwg hefyd fod yr addewid o gynyddu nifer yr apwyntiadau ar gael y tu allan i oriau craidd i bob golwg wedi ei ddileu, gyda dim ond 10% o bob practis yng Nghymru yn cynnig apwyntiadau ar ôl 6.30 pm.

Mewn tri bwrdd iechyd, doedd yr un feddygfa yn cynnig apwyntiadau wedi 6.30 pm ac y mae dau fwrdd iechyd wedi datgomisiynu eu horiau agor estynedig yn llwyr.

Cyfnod III – 2014/15

Dangosodd yr arolwg hefyd mai dim ond un practis yng Nghymru gyfan - yn Abertawe Bro Morgannwg - oedd yn cynnig apwyntiadau bob yn ail ddydd Sadwrn. Mae hyn yn ostyngiad o’r 2 bractis oedd yn cynnig apwyntiadau Sadwrn yn 2014.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC:

“Yn 2011, addawodd Llafur wneud apwyntiadau meddygon teulu yn fwy hygyrch i bobl sy’n gweithio. Ond yn yr wyth mlynedd a ddilynodd, maent wedi methu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol tuag at gwrdd â’u targedau eu hunain.

“Mae Plaid Cymru yn gyson wedi dadlau mai un o’r ffyrdd gorau o sicrhau mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw cynyddu’r gweithlu. Ond ers addo ymestyn oriau agor, mae nifer y meddygon teulu mewn gwirionedd wedi lleihau.

“Wrth fethu cynyddu’r gweithlu meddygon teulu, doedd dim modd gwireddu addewidion Llafur ac fe’u gollyngwyd yn dawel bach. O ganlyniad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael llawer practis lleol yn ceisio ymdopi gyda llai o feddygon teulu a chanran is o’r gyllideb iechyd.

“Mae arna’i ofn mai achos yw hyn eto o Lafur yn addo un peth yn Lloegr ac yn methu gwneud hynny yng Nghymru lle maent mewn llywodraeth. Mae Cymru’n haeddu gwell na hyn, ac yn 2021, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn gweithio’n syth ar gyflwyno GIG fydd yn gweithio i Gymru.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cysgodol Plaid Cymru, Helen Mary Jones AC:

“Yr oedd cael mwy o apwyntiadau meddygon teulu i bobl oedd yn gweithio yn un o brif addewidion Llafur yn etholiad y Cynulliad yn 2011. Ond yr hyn welsom yn y blynyddoedd ers hynny yw cymysgedd o gynnydd tameidiog a dim cynnydd o gwbl.

“Ni wnaed fawr ddim cynnydd ar gynyddu nifer yr apwyntiadau y tu allan i oriau craidd ac ar benwythnosau. Rhoddwyd y gorau mewn gwirionedd i’r addewidion hyn.

“Gwaetha’r modd, dyma’r hyn mae pobl Cymru wedi dod i ddisgwyl o’r llywodraeth Lafur ddi-glem hon. Petai Llafur wedi gwrando ar Blaid Cymru ac wedi cynyddu nifer y llefydd hyfforddi meddygon teulu, fe allasent fod wedi cwrdd â’u targedau.

“Mae ein cymunedau yn haeddu gwell na hyn –ac y mae pobl sy’n gweithio yn haeddu GIG sy’n gweithio iddynt hwy. Nid rheoli Cymru fydd ein gwaith ni, ond ei thrawsnewid. Dyna’n union a wnaiff  Llywodraeth Plaid Cymru yn 2021.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.