Lles
Mynd i’r Afael â Thlodi Plant
Mae’r cynnydd yn nifer y plant sy’n byw mewn tlodi dan Lywodraeth Geidwadol y DG yn hollol annerbyniol, ac y mae wedi gadael llawer o’n pobl ifanc dan anfantais mewn bywyd.
Credwn y dylai unrhyw lywodraeth dargedu’r gostyngiad mewn tlodi plant a’i ddileu yn y pen draw fel un o’i phrif amcanion.
Yn etholiad y Senedd yn 2021 yng Nghymru, prif bolisi Plaid Cymru oedd cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd, er mwyn iddynt fod yn sicr o gael pryd maethlon ac iach tra’u bod yn dysgu.
Wedi gweithredu’r polisi hwn yn llwyddiannus, byddwn yn pwyso yn awr am gynyddu hyn i gynnwys ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Fel rhan o’n cenhadaeth i leihau tlodi plant, byddai Plaid Cymru yn codi budd-dal plant o £20 yr wythnos i bob plentyn.
Ledled Cymru, bydd hyn yn helpu 330,000 o deuluoedd a mwy na 550,000 o blant a phobl ifanc sy’n gymwys am hyn, gan hyrwyddo eu cyfle mewn bywyd a helpu teuluoedd i drin yr argyfwng costau byw a orfodwyd arnynt gan Lywodraeth Geidwadol y DG.
Mae budd-dal plant yn cael ei dderbyn gan 94% o blant yng Nghymru, felly credwn mai dyma’r dull mwyaf effeithiol o roi cefnogaeth i deuluoedd. Byddai’n caniatáu iddynt gynllunio eu cyllid a gwneud penderfyniadau cyfrifol yn wyneb argyfwng costau byw sydd wedi gwthio cymaint i dlodi.
Byddwn yn dileu polisi’r Ceidwadwyr o’r terfyn ‘dau-blentyn’ ar daliadau credyd cynhwysol, un o brif elfennau tlodi plant, a rhoi terfyn ar y cap budd-daliadau sydd yn atal teuluoedd rhag hawlio’r swm llawn.