Llinos Medi yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn.
Ers cael ei hethol yn Gynghorydd Sir dros ward Talybolion yn 2013, ac yna fel Arweinydd benywaidd cyntaf y Cyngor, mae Llinos wedi bod yn benderfynol o fynnu’r gorau i’r ynys bob amser.
Mae ganddi gefndir mewn cefnogi defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion a mudiadau Ffermwyr Ifanc. Cafodd Llinos ei henwi ar restr o 100 o Ferched Cymru sydd wedi cael effaith arwyddocaol o fewn eu meysydd, rhestr a luniwyd gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn 2020.
Yn ôl arolwg barn gan Survation ym mis Chwefror 2024, Llinos Medi yw'r ffefryn i ennill sedd Ynys Môn oddi ar y Ceidwadwyr gyda 39% o’r bleidlais. Roedd Llafur ar 27%, y Ceidwadwyr ar 26% a Reform ar 4%.
Mae Llinos yn gobeithio ymuno â thîm gweithgar Plaid Cymru yn San Steffan, ac yn credu bod angen llais ar Ynys Môn a fydd bob amser yn sefyll dros wir anghenion a gwerthoedd yr Ynys.