Llwybrau Diogel

Credwn fod Llywodraeth y DG wedi tanseilio’r ymrwymiad hwnnw trwy fethu â darparu llwybrau diogel i geiswyr lloches a thrwy fethu yn fwriadol a phrosesu ceisiadau yn gyflym, yn effeithiol ac yn ddyngarol, gan arwain at farwolaethau ar y môr a dioddefaint diangen ymysg pobl sydd eisoes yn fregus ac yn ceisio man diogel.

Byddai rheoli’r broses lloches yn effeithiol yn caniatáu i’r prosesu ddigwydd cyn cyrraedd y DG, mewn trydedd wlad megis Ffrainc neu yn y llysgenadaethau neu gonsyliaethau Prydeinig dramor. Byddai creu rhaglen ar-lein sy’n dangos canlyniad tebygol cais am loches hefyd yn helpu i reoli’r broses hon.

Yr ydym yn cydnabod y bu cynnydd mewn rhyfeloedd dros y ddegawd a aeth heibio, gan gynnwys y rhai yn Syria, Afghanistan, Wcráin a Gaza, sydd wedi ychwaneg at nifer y bobl sydd wedi gorfod ffoi.

Credwn fod y bobl hynny y mae rhyfeloedd neu erledigaeth yn eu mamwlad yn haeddu ein help a’n cefnogaeth.

Unwaith y maent yma, yr ydym yn credu y dylai’r cyfrifoldeb dros geiswyr lloches a’u gwasgaru fod yn gymesur ledled y DG.

Yr ydym yn cefnogi cynllun aduno teuluoedd i’r sawl sydd wedi eu dal yn y gwrthdaro yn Gaza, gyda hawl bendant i ddychwelyd i’w mamwlad pan fydd modd gwneud hynny.

Mudo a Lloches: darllen mwy