Rhanbarth: Gogledd Cymru

Llŷr Gruffydd AS

Portffolio: Amaeth a Materion Gwledig

Mae Llŷr wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Gogledd Cymru ers 2011. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cadeirio Pwyllgor Cyllid y Senedd (2018-2021) a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith (2021 hyd heddiw).

Mae hefyd wedi gwasanaethu ei blaid fel Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Daeth Llŷr hefyd yn Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru am gyfnod yn 2023.

Dechreuodd Llŷr ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid cyn dod yn Brif Swyddog Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Yn ddiweddarach bu’n gweithio i gwmni datblygu economaidd yn cefnogi creu busnesau newydd ac yn helpu busnesau presennol i ddatblygu a thyfu. Mae Llŷr hefyd wedi bod yn rheolwr ymgynghorol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Yn ystod ei gyfnod fel AS mae Llŷr wedi dod yn ymgyrchydd amlwg ar ystod o faterion ar draws Gogledd Cymru. Mae wedi bod yn feirniad cryf o fethiannau’r gwasanaeth iechyd yn y rhanbarth, yn enwedig ym maes iechyd meddwl, gwasanaethau mamolaeth a chau ysbytai cymunedol. Safodd dros nyrsys oedd yn brwydro yn erbyn gwaith shifft ychwanegol heb dâl ac mae wedi gwrthwynebu preifateiddio gwasanaethau gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.

Mae gan Llŷr hanes o frwydro dros gymunedau gwledig ac amaethyddol. Mae wedi bod yn eiriolwr cyson dros ddiogelu gwasanaethau gwledig ac wedi bod yn feirniad amlwg o fethiant y Llywodraeth i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg. Arweiniodd hefyd y ddadl yn erbyn y rheoliadau NVZ, gan annog ymagwedd fwy cymesur.

Mae'n byw yn Rhuthun ac mae ganddo bedwar o blant.