Llywodraethiant

Bydd Plaid Cymru yn adolygu llywodraethiant y GIG yng Nghymru, gyda’r nod o gryfhau goruchwylio ac atebolrwydd, fel bod cleifion yn cael canlyniadau gwell. Yn hanfodol, does dim rhaid i hyn olygu ailstrwythuro ein gwasanaeth iechyd o’r bôn i’r brig, fyddai’n ddrud ac yn tarfu ar bawb. Byddwn yn canolbwyntio yn hytrach ar newidiadau diwylliannol bychan ond arwyddocaol - mireinio a safoni targedau, gwneud llinellau atebolrwydd yn gliriach a recriwtio rheolwyr gydag mwy o wybodaeth arbenigol a pherthnasol.

Byddai ein diwygiadau yn golygu y byddai statws mesurau arbennig byrddau iechyd yng Nghymru yn adlewyrchiad cywirach o ddeilliannau iechyd yn hytrach na bod dan ddylanwad gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru. Yn yr un modd, yr ydym o blaid gwell goruchwylio annibynnol ar reolwyr byrddau iechyd.

Buasem hefyd yn cyflwyno corff rheoleiddio i Uwch-Reolwyr Iechyd. Mae staff meddygol yn ateb i’w cyrff rheoleiddio, megis y GMC, ond nid yw hyn yn wir am uwch-reolwyr iechyd. Byddai sefydlu corff rheoleiddio i reolwyr yn helpu i wella diogelwch cleifion ac yn rhoi grym i staff trwy wneud yn siwr fod pob penderfyniad yn adlewyrchu gwerthoedd didwylledd, gonestrwydd ac uniondeb.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: darllen mwy