Brwydr hirfaith pensiynau Allied Steel and Wire "heb ei hennill o hyd"

DxnvpP8WkAAz11q.jpg

Cyflwynodd AC Plaid Cymru Bethan Sayed ddadl a’i hagor yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ran ymgyrchwyr o’r Grŵp Gweithredu Pensiynau, oedd yn ceisio iawn am bensiynau a gollwyd o ganlyniad i gau Allied Steel and Wire yn 2002.

Bu ymgyrchwyr yn ymwneud â Ms Sayed ac aelodau eraill, yn pwyso am ddadl i gadarnhau ymrwymiad y Cynulliad Cenedlaethol i driniaeth deg i’r pensiynwyr ASW hynny ac eraill yn y Cynllun Cymorth Ariannol.

Yn 2002, aeth ASW i’r wal a chanfuwyd fod diffyg o 21 miliwn yn eu cronfeydd pensiynau. Cychwynnodd llawer o weithwyr ymgyrch a arweiniodd, gyda chefnogaeth pobl megis y Farwnes Altmann, at gyflwyno’r CCA a blwyddyn yn ddiweddarach, y Gronfa Gwarchod Pensiynau i helpu i warantu’r rhan fwyaf o gyfraniadau pensiynau preifat. Fodd bynnag, nid yw’r CCA yn  gwarchod rhag chwyddiant gyfraniadau pensiwn a wnaed cyn 1997 ac nid yw’n lwfio’n llawn am chwyddiant i gyfraniadau a wnaed wedi 1997 ac y mae’n cynnwys cap ar daliadau. Mae hyn wedi golygu bod gwerth pensiynau llawer yn y CCA wedi cwympo’n sylweddol, gan gynnwys ymgyrchwyr ASW.

Dywedodd Bethan Sayed, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru,

“Rwyf wedi bod yn hynod ymwybodol o natur fregus ein system pensiynau preifat, a sut y bydd rhai cwmnïau yn gwneud popeth yn eu gallu i osgoi eu hymrwymiadau, a hynny ers ymgyrch pensiynwyr Ford Visteon. Cefais y fraint o helpu i godi ymwybyddiaeth gyda’r Grŵp Gweithredu Pensiynau  a phensiynwyr ASW. Rhaid i ni gofio nad parasiwt euraid na bonws i ddiolch yw pensiynau - cyflogau gohiriedig ydynt. Maent yn gyfraniadau wedi eu gwneud gan weithwyr, rhaid wedi eu gwneud dros ddegawdau, yn y disgwyliad y buasent yn derbyn sicrwydd yn eu hymddeoliad, a’r arian a dalwyd ganddynt i’r system. Yn lle hynny, mae cannoedd o weithwyr yn treulio eu hymddeoliad yn ymgyrchu dros gyfiawnder.

“Mae’r hyn ddigwyddodd i’r ymgyrchwyr hyn yn warthus. Mae’n warth a ddeilliodd o’r ddeddfwriaeth a gyflwynodd y CCA ac yn warth na chafodd ei unioni gan unrhyw un o Lywodraethau’r DG ers hynny. Dyw hi ddim yn iawn, dim ond oherwydd bod amser wedi mynd heibio, y gallwn anwybyddu’r hyn a ddigwyddodd, oherwydd mae’r ymgyrchwyr hyn gyda ni yn awr, am eu bod yn dal i fyw gyda chanlyniadau’r anghyfiawnder a ddioddefwyd ganddynt.

“Gobeithio y bydd y ddadl hon yn ein hatgoffa i barhau i weithio am iawndal i’r rhai sydd wedi colli rhan neu’r cyfan o’u pensiynau yn yr ymgyrch hon, ac y byddant yn eu symud i fyny’r agenda gwleidyddol. Ond dylem gadw llygad barcud ar broblemau cynyddol eraill ansicrwydd mewn cynlluniau pensiwn ledled y wlad mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Mae angen canolbwyntio yn wleidyddol ddwys ar ddiwygio pensiynau a sicrwydd pensiynau mewn dull teg a thrwyadl, sy’n rhoi’r gweithwyr yn flaenaf.”

Ychwanegodd Dr Dai Lloyd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru a siaradodd hefyd yn y ddadl:

“Mae hwn yn warth fu wrthi’n rhy hir o lawer. Yr oeddwn yn y Cynulliad Cenedlaethol pan gododd y mater hwn gyntaf, ac nid yw un Llywodraeth y DG ar ôl y llall wedi gwneud dim oll i wneud iawn wedi i bobl weithgar, a dalodd i’w cynlluniau pensiwn ers blynyddoedd, gael eu pensiynau wedi eu dwyn oddi arnynt.

“Yr oedd cyflwyno’r CCA a’r CAP i fod yn newidiadau blaengar ar ran llywodraeth Lafur, ond fel mae’n digwydd, nid felly y bu. Mae llywodraethau Llafur a Cheidwadol ar lefel y DG yn gyson wedi anwybyddu neu geisio osgoi rhoi triniaeth deg i weithwyr ASW ac eraill, a ddioddefodd yr ergyd o golli rhan o’u pensiynau neu’r cyfan. Mae’n hen bryd i lywodraeth y DG edrych eto ar hyn a symud o’r diwedd i gyflwyno newidiadau i’r CCA a gwneud iawn o’r diwedd.”

Meddai ymgyrchwyr ASW John Benson a Phil Jones,

“Rydym yn falch fod y Cynulliad Cenedlaethol fod wedi dod â’r ddadl hon gerbron ac wedi ein cefnogi unwaith eto yn ein brwydr. Y ffaith yw, wedi bron i 17 mlynedd o ymgyrchu dros gyfiawnder, nad ydym eto wedi ei dderbyn. Gweithwyr oeddem ni oedd wedi talu i mewn i’r cynllun pensiwn, fel y’n hanogwyd ni i wneud, ac oedd wedi ymddiried y byddai’r cwmni hwn yn cwrdd â’i oblygiadau - wnaethon nhw ddim.

“Yr oeddem yn gobeithio mewn llawn ffydd y byddai Llywodraethau yn San Steffan yn anrhydeddu ymrwymiadau a wnaed i ni ac y buasent yn rhoi i ni y cyfiawnder a’r tegwch oedd yn ddyledus i ni - wnaethon nhw ddim. Yr ydym eisiau i bobl wybod nad ydym wedi diflannu a’n bod yn dal i aros. Mae rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd i unrhyw un a does neb yn haeddu’r driniaeth y bu’n rhaid i ni ddioddef. Gobeithio y bydd hyn yn awr yn dod yn ôl ar yr agenda gwleidyddol.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.