Bydd arglwydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, heddiw yn annog Tŷ’r Arglwyddi i gefnogi ei welliant i ddatganoli plismona i Gymru.
Gallai trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros blismona i Gymru arwain at hwb gwerth £25 miliwn i’w cyllid, a bydd cyn-arweinydd Plaid Cymru heddiw yn cyflwyno gwelliant i Fesur Cymru yn Nŷ’r Arglwyddi.
Bydd Dafydd Wigley yn amlygu’r ffaith fod y tair prif blaid yng Nghymru – Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – oll wedi cydnabod manteision datganoli plismona, a bod Comisiwn trawsbleidiol Silk wedi argymell datganoli yn ôl yn 2014.
Wrth gyflwyno ei welliant yn nes ymlaen, fe ddywed Dafydd Wigley:
“Wela’i ddim rheswm o gwbl pam y dylai blaenoriaethau plismona Cymru gael eu rheoli gan Senedd y DG yn hytrach na Senedd Cymru – y Cynulliad Cenedlaethol. Mae plismona wedi ei ddatganoli i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon, felly pam nad i Gymru? Beth sy’n gwneud Cymru yn eithriad?
“Mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru, Llywodraeth Cymru, yr wrthblaid swyddogol yng Nghymru a hyd yn oed y Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi cefnogaeth i ddatganoli plismona, ond mae Llywodraeth y DG yn benderfynol o gadw heddluoedd Cymru yn nwylo gweision sifil Whitehall.
“Sefydlwyd Comisiwn Silk gan y Torïaid ac yr oedd yn cynnwys y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru, a’r blaid Geidwadol yn eu plith. Treuliodd ei aelodau ddwy flynedd yn ymgynghori â’r cyhoedd, cymdeithas sifig, academia ac arbenigwyr o ddiwydiant ynghylch y pwerau sy’n angenrheidiol i gryfhau Cymru ac i roi grym iddi.
“Derbyniodd dystiolaeth ysgrifenedig, gwrandawodd ar dystiolaeth lafar, ac ymweld â phob cwr o Gymru. Clywodd dystiolaeth gan yr heddlu eu hunain a chan Ffederasiwn yr Heddlu yn galw am ddatganoli plismona, a dyna oedd argymhelliad yr adroddiad.
“Mae gennym bellach ffigyrau yn dangos, petai plismona yn cael ei ddatganoli, y gallai Heddluoedd Cymru fod yn well eu byd o £25 miliwn y flwyddyn, a thrwy hynny wella diogelwch y cyhoedd.
“Mae Llywodraeth y DG yn dadlau yn erbyn y dystiolaeth, ac yr wyf yn gobeithio y byddant yn dod at eu coed ac yn cefnogi fy ngwelliant.”