Luke Fletcher

Ymgeisydd etholaeth Ogwr a rhanbarth Gorllewin De Cymru (rhif 2)

Luke Fletcher - OgwrLuke Fletcher - Gorllewin De Cymru (2)

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n 25 oed, wedi ‘ngeni ym Mhencoed. Fe fûm yn Ysgol Gymraeg gynradd Bro Ogwr, Ysgol Uwchradd Llanhari, yna i Brifysgol Caerdydd am fy ngradd gyntaf a gradd Meistr. Gweithiais mewn bar yn y sector croesawu am ychydig dan 5 mlynedd cyn dod yn ymchwilydd Economi a Chyllid.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae nifer o faterion yn wynebu Cymru yn awr, ac i mi, y pennaf yw tlodi. Mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar wasanaethau fel banciau bwyd i gael dau ben llinyn ynghyd. Rwy’n credu ei bod yn fater o frys i ni gael y pwerau dros weinyddu lles wedi eu datganoli i’r Senedd fel y gallwn deilwrio ein system lles i gwrdd ag anghenion pobl sy’n byw yng Nghymru.

Gwyddom hefyd fod Covid wedi gwaethygu problemau tlodi i lawer. Mae’r nifer o bobl oedd yn dibynnu ar Brydau Ysgol am Ddim (PYaDd) yn ystod y pandemig yn peri dychryn ac yn dangos yn sobreiddiol sut y mae Llywodraeth Lafur bresennol Cymru wedi anghofio am y cymunedau sydd angen help yn awr yn fwy nac erioed. Er enghraifft, mae meini prawf cymhwyster am PYaDd a osodwyd gan y Llywodraeth Lafur wedi cau allan 70,000 o blant sy’n byw dan y llinell dlodi yng Nghymru rhag cael PYaDd.

Dylai Prydau Ysgol am Ddim gael eu hymestyn ar unwaith i unrhyw blentyn mewn teulu sy’n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal tebyg, ac os na wneir hyn cyn yr etholiad, yna wedi’r etholiad, bydd hyn yn flaenoriaeth i mi. Dylem oll fod eisiau byw mewn Cymru lle mae pawb yn derbyn gofal mewn amseroedd caled.

Beth wnewch chi dros Ogwr / Gorllewin De Cymru petaech yn cael eich ethol?

Blaenoriaeth i mi yw taclo tlodi a’i achosion, felly buaswn yn gobeithio cwrdd a helpu mudiadau sy’n gweithio yn y maes hwnnw ar draws yr etholaeth - ochr yn ochr â lobïo am newid gyda Llywodraeth Cymru.

Ynghyd â hyn, mae gwir botensial yn fy ardal i i fod ar flaen y gad gyda ‘chwyldro diwydiannol gwyrdd’. Buaswn eisiau ein rhoi ar y map fel y lle i fod yng Nghymru o ran ymchwil a datblygu technolegau gwyrdd, dod â swyddi sy’n talu’n dda i’n hardal leol, gan sicrhau bod pobl sydd eisiau aros yn yr ardal leol ac eisiau swyddi da sy’n talu’n dda, yn gallu gwneud hynny.

Yn olaf, nid yw’r seilwaith cludiant cyhoeddus yn ddigon da. Er enghraifft, mae cymoedd Ogwr a Garw yn dibynnu ar wasanaethau bws anaml sydd dan fygythiad cyson o gael eu torri. Mae hyn yn wir hefyd am yr ardal ehangach. Rhaid i ni ofalu bod gwasanaethau bysus yn fwy dibynadwy o lawer ac aml fel man cychwyn i gysylltu cymunedau a mannau gwaith. Hoffwn hefyd edrych ar ddichonoldeb adeiladu rheilffordd ysgafn newydd neu draciau tram i gysylltu ein cymoedd, nid yn unig â’r prif reilffyrdd ond gyda’i gilydd.