Lwfans Tai Lleol
Y Lwfans Tai Lleol yw swm y rhent y gellir ei ddarparu i helpu i gwrdd â chostau tai. Ers cyflwyno’r newidiadau i’r Lwfans Tai Lleol, mae costau rhentu wedi codi’n sylweddol, sy’n golygu na all rhentwyr dalu eu costau, gyda sgîl-effeithiau ar denantiaethau cynaliadwy a mwy o ddigartrefedd.
Bydd Plaid Cymru yn sicrhau bod y LTLl yn cael ei gadw ar y canradd 30ain o rent y farchnad ym mhob Ardal Fras Rhent y Farchnad. Yn unol â datganoli tai sydd eisoes yn bodoli, dylid datganoli mecanwaith Ardal Fras Rhent y Farchnad i Gymru, gan fod tai eisoes yn faes a ddatganolwyd.