Ffordd Liniaru’r M4: San Steffan yn cefnu ar eu haddewid ar Gyllideb Cymru

WhatsApp_Image_2019-03-15_at_11.25.55_AM.jpeg

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi codi pryderon difrifol ynghylch arwyddion y gallai Llywodraeth San Steffan gefnu ar eu haddewid i ganiatáu i Lywodraeth Cymru fenthyca arian i fuddsoddi mewn seilwaith.

Mewn ateb i gwestiwn seneddol ysgrifenedig gan Mr Edwards, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss “yng ngoleuni’r penderfyniad [gan Lywodraeth Cymru]” i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4, yr adolygir cynnydd yn y cap benthyca.

I gynyddu swm yr arian y gall Llywodraeth Cymru fenthyca mae angen cymeradwyaeth Llywodraeth San Steffan. Cyhoeddwyd cynnydd o’r fath yn lwfans benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru (y swm y gall fenthyca i’w wario ar asedau ffisegol megis ffyrdd neu adeiladau) yng Nghyllideb 2018 Llywodraeth San Steffan. Ar y pryd, lleisiwyd pryderon ynghylch arwyddion y byddai Llywodraeth San Steffan yn gwneud datganoli pwerau benthyca ychwanegol yn amodol ar ddatblygu llwybr penodol i ffordd liniaru’r M4.

Ym Mehefin 4 eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fuasent yn gwneud unrhyw any ffordd liniaru i’r M4. Mae’n edrych yn awr fel petai’r pryderon a godwyd adeg cyhoeddi’r cynnydd yn y cap am gael eu gwireddu, oherwydd bod Llywodraeth San Steffan yn awr yn ystyried tynnu’n ôl y codiad o £300miliwn.

Un o egwyddorion creiddiol datganoli yw bod yr arian a roddir i’r weinyddiaeth ddatganoledig yn fater i’r meysydd datganoledig y mae’n eu llywodraethu a’r Cynulliad Cenedlaethol a etholwyd yn ddemocrataidd sy’n eu goruchwylio. Mae cysylltu codiadau mewn gallu benthyca i un o ddewis bolisïau llywodraeth San Steffan yn mynd yn groes i’r egwyddor hon, yn enwedig o ystyried bod y prosiect dan sylw - ffordd liniaru’r M4 -o fewn maes datganoledig trafnidiaeth.

Meddai Jonathan Edwards AS:

“Mae’n warthus fod Llywodraeth San Steffan yn cefnu ar eu haddewid i ganiatáu i Lywodraeth Cymru fenthyca er mwyn buddsoddi mewn seilwaith. Bu datganoli yn ei le ers dros ugain mlynedd, ond y mae San Steffan yn dal i geisio defnyddio triciau budron i’w danseilio.

“Yr oedd ffordd liniaru’r M4 yn niweidiol iawn i’r amgylchedd, ac fe’i gwrthodwyd. All San Steffan ddim deddfu beth y dylai’r Llywodraeth a’r Cynulliad datganoledig gefnogi, dim ond am nad ydynt yn ei hoffi.  

“Mae seilwaith trafnidiaeth Cymru yn crefu am fuddsoddiad ac yr wyf yn siomedig iawn yn record Llywodraeth Lafur Cymru ar y pwnc. Mae’r ffaith nad oedd ganddynt gynlluniau buddsoddi amgen mewn dewisiadau gwyrddach a glanach pan wnaethant ganslo datblygiad ffordd liniaru’r M4 yn siarad cyfrolau am eu huchelgais. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu fod gan San Steffan unrhyw hawl i danseilio strwythurau democrataidd datganoli.

“Mae holl egwyddor datganoli yn cael ei gwestiynau gan Lywodraeth San Steffan. Os byddant yn gwireddu eu bygythiad ac yn troi eu cefn ar eu hymrwymiadau, byddant yn tanseilio’r cyfaddawd cyfansoddiadol bregus sy’n sylfaen i’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.