Lansio adroddiad o bwys ar botensial hydrogen i Gymru mewn cwmni cynhyrchu eco-geir yn Llandrindod

hydro1.jpg

Mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi lansio adroddiad o bwys sydd yn dadansoddi potensial hydrogen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru. 

Lansiwyd yr adroddiad yng ngwaith cynhyrchu eco-geir Riversimple yn Llandrindod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas,

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y modd y gallai Cymru gymryd rôl strategol yn yr egin-economi hydrogen, ond dywed nad oes arweinyddiaeth yn bodoli yng Nghymru.

“Petawn i’n Ysgrifennydd Cabinet mewn Llywodraeth Cymru Plaid Cymru buan iawn y buaswn yn derbyn yr argymhelliad ynghylch estyn allan at y Cyngor Hydrogen. Buasem yn cyd-drefnu digwyddiad o bwys yng Nghymru fyddai’n cyfleu uchelgais cenedl y Cymry ar yr economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang. Gallai’r digwyddiad hwn hefyd ddathlu bywyd William Grove o Abertawe, a ddyfeisiodd y gell danwydd hydrogen ym 1842.

“Gall Cymru unwaith eto fod yn lleoliad dyfeiswyr ac arloeswyr trwy sefydlu tîm unswydd o’n prifysgolion a’n cynghorau i sicrhau’r cyllid ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi hydrogen yn lleol.

“Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfleoedd a roddir gan y fasnachfraint reilffyrdd newydd a’r Metros arfaethedig i gyflwyno trenau a bysus hydrogen yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr awyr a anadlwn yn ffres a heb fod yn llygru.”

Ychwanegodd awdur yr adroddiad Guto Owen: “Cafwyd ymchwydd o ddiddordeb mewn hydrogen i ddatgarboneiddio nid yn unig drafnidiaeth ond hefyd y sectorau trydan, gwres ac amaethyddol, ac i wella ansawdd aer. Mae cyfuno dim allyriadau a’r gallu i storio ynni ar raddfa yn dymhorol, strategaethau a phrosiectau hydrogen yn cael eu hyrwyddo gan lywodraethau, cyfleustodau a datblygwyr technoleg ledled y byd. Mae gan Gymru, gyda’i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â’r arloeswyr trwy symud hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.”

Mae’r dadansoddiad, a wnaed gan yr ymgynghorwyr ynni, Ynni Glân, yn canolbwyntio ar y defnydd cyfredol o hydrogen yn sector trafnidiaeth Cymru yn ogystal â defnyddio hydrogen yn y sector trafnidiaeth yn y DG a ledled y byd.

Dywedodd Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru,

“Mae SPG Cymru yn falch o weld datblygiadau yng Nghymru a allai arwain ar fwy o gerbydau a chludiant cyhoeddus mwy tanwydd-effeithiol ac isel eu hallyriadau, fydd yn help i fynd i’r afael â’n hawyr sydd wedi ei lygru’n beryglus.

“Ymchwil dan nawdd SPG oedd y cyntaf i brofi’r cyswllt rhwng llygredd aer a chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yn 2013. Carai SPG weld pob llywodraeth yn y DG yn ymrwymo i leihau Nitrogen Ocsid (NO2) a Deunydd Gronynnol (PM) a gwella ansawdd aer.

“Mae Cerbydau Allyriadau Hynod Isel (CAHI) a mathau eraill o drafnidiaeth wedi’u datgarboneiddio, gan gynnwys teithio gweithredol wedi’i integreiddio’n iawn, yn debygol o helpu i wneud yn sicr y gostyngir y llygrynnau niweidiol hyn. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o ran darparu pwyntiau gwefru a mathau eraill o seilwaith cyn i ni weld defnydd eang o rai mathau o gerbydau. Mae’r sgwrs ynghylch datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru ar ddechrau’r Wythnos Awyr Lan i’w chroesawu yn fawr, oherwydd bod y canolbwynt ar awyr wael y mae ein cymunedau’n ei anadlu o’r diwedd yn cael ei gydnabod.”

Mae’r adroddiad yn amlinellu ffynonellau cyllid, dadansoddiad cost a budd o ddefnyddio hydrogen yn y sector trafnidiaeth, rôl Llywodraeth Cymru, a dichonoldeb defnyddio hydrogen i ddatgarboneiddio bysus, trenau a chludo nwyddau.

Mae’r ddogfen yn diweddu gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru ac yn annog y llywodraeth i roi arweiniad trwy ymuno  â gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n symud ymlaen gyda datgarboneiddio. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi tystiolaeth sy’n cefnogi’r syniad ar gyfer gweithredu cynlluniau trafnidiaeth hydrogen yng Nghymru.

Talwyd am yr ymchwil o Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer datblygu polisi.

Darllenwch yr adroddiad yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.