Dywedodd Plaid Cymru y bydd ymwelwyr i rown derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn gweld fod Cymru yn un o leoliadau gorau’r byd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon o bwys, medd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Michael Deem.
Dywedodd Plaid Cymru y bydd ymwelwyr i rown derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn gweld fod Cymru yn un o leoliadau gorau’r byd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon o bwys, medd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Michael Deem.
Dywedodd Michael Deem y byddai Plaid Cymru yn gwneud mwy o le Cymru fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon o bwys, a buasent yn gweithio gyda chymdeithasau chwaraeon a’r diwydiant ymwelwyr i nodi cyfleoedd eraill i Gymru groesawu digwyddiadau byd-enwog megis y Tour de France.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd Michael Deem:
“Bydd ymwelwyr â Chaerdydd ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn gweld fod Cymru yn lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer prif ddigwyddiadau chwaraeon. Mae gennym record wych o gynnal digwyddiadau llwyddiannus dros ben, megis Cwpan Rygbi’r Byd, y Lludw, a Chwpan Ryder.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn llwyfan i’r gorau sydd gan ein cenedl i’w gynnig, yn hybu ein twristiaeth ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi. Daeth Cwpan Ryder â bron i £75 miliwn o fuddsoddiad i dde-ddwyrain Cymru, ac y mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn sicr o hybu’r economi yn yr un modd.
“Wrth i Gymru ddechrau ystyried bywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, bydd Plaid Cymru yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i wneud cais am i fwy o ddigwyddiadau mawr ddod i Gymru. Bydd Plaid Cymru yn arddangos Cymru ar lwyfan y byd, yn dathlu ein dinasoedd a’n lleoliadau rhyfeddol, ac fe osodwn raglen waddol wirioneddol yn ei lle fel y bydd y manteision economaidd a diwylliannol yn para am genedlaethau. Mae chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd, ac y mae gwaddol digwyddiadau chwaraeon llwyddiannus yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r chwiban olaf.
“Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi Cymru ar y map yn yr etholiad hwn, rhaid i chi bleidleisio dros Blaid Cymru. Pa bynnag dîm yr ydych yn gefnogi, cefnogwch Dîm Cymru yn yr etholiad hwn, a bwrw pleidlais dros y Blaid.”