Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi annog pobl i roi mandad i Gymru yn yr etholiad hwn.
Dywedodd, gyda dim ond 40 o ASau, na chaiff Cymru fyth fwyafrif yn San Steffan, ond gyda thîm cryf o ASau Plaid Cymru, y bydd gan bobl Cymru fandad i fynnu bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Galwodd ar bobl i roi mandad i Blaid Cymru i amddiffyn Cymru.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Dim ond 40 o ASau sydd gan Gymru o gymharu â 533 i Gymru. Gwyddom na chaiff Cymru fyth fwyafrif yn San Steffan, ond dyw hynny ddim yn golygu y dylid gadael i un llywodraeth y DG ar ôl ei gilydd anwybyddu ein cenedl.
“Mandad, nid mwyafrif, sydd ei angen ar Gymru.
“Trwy ethol tîm cryf o ASau Plaid Cymru, gallwn fynnu mandad i roi Cymru ar yr agenda gwleidyddol.
“Mae’r Alban wedi dangos y gallan nhw gael eu clywed pan fydd ganddynt bresenoldeb cryf yn San Steffan; gallwn ni wneud yr un peth i Gymru. “Gwyddom fod y tebygrwydd y bydd llywodraeth Geidwadol gryfach yn San Steffan yn fygythiad i Gymru. "Mae angen i ni roi i Blaid Cymru fandad i amddiffyn Cymru.”