Ddoe fe gyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru ein cynllun fwyaf uchelgeisiol eto i drawsnewid Cymru. Dyma ambell i beth y gallech fod wedi ei golli...
1. Swyddi'n troi'n wyrdd
Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi chwyldro swyddi gwyrdd ac dechrau oes newydd yn niwydiant ynni Cymru, gan greu degau o filoedd o swyddi newydd ledled Cymru. Byddai hyn yn cael ei gyplysu a chwmni ynni Cymru cenedlaethol sy'n gyfrifol am reoli a dosbarthu'r egni hwn.
2. O'r gogledd i'r de - rhwydwaith trenau trydan
O dan Lafur, mae'r rhwydweithiau trenau ar draws Cymru wedi bod yn drychineb. O amserlennu ofnadwy i drenau'n cael eu canslo'n llwyr. Mae Plaid yn cynnig trwsio hyn trwy drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd De Cymru, ac yna rhwydwaith rheilffyrdd Gogledd Cymru, gan ganiatau teithio cyflymach, glanach a mwy diogel i Cymru’n gyfan.
3. O'r crud i'r bedd - gofal gydol oes
O ofal plant am ddim i oedrannau 1-3, i ofal cymdeithasol am ddim ar yr angen, mae gan Plaid Cymru weledigaeth i bawb cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, waeth beth fo'u hoedran neu incwm.
4. Tynnu 50,000 o'n plant allan o dlodi
Ledled Cymru mae 200,000 o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Mae Plaid yn bwriadu frwydro yn erbyn hyn gyda thaliad wythnosol o £35 ar gyfer teuluoedd incwm isel. Byddai hyn yn codi 50,000 o blant allan o dlodi ar unwaith, gan ddarparu'r darpariaethau angenrheidiol i blant ledled Cymru gael plentyndod diogel, hapus.
5. Addysg i bawb
Gyda ein ysgolion yn dioddef o diffyg cyllid, bydd Plaid Cymru yn buddsoddi £300m ychwanegol yn ein ysgolion a'n colegau er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant. schools are suffering from serious underfunding. Plaid Cymru would invest an extra £300m for our schools and colleges to give our children the best start in life.
6. Cyfiawnder dros gyfiawnder
Mae Plaid Cymru yn cynnig creu 1,600 o heddweision ychwanegol, dau ar gyfer pob cymuned yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau y byddai cymunedau ledled Cymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â throsedd yn ddigonol. Byddwn hefyd yn mynd i'r afael ag anghyfiawnderau hil yn y system gyfiawnder yn ogystal a throseddau casineb.
7. Tai i bawb o bobl y byd
Mae Llafur a'r Toriaid wedi methu â darparu tai digonol yn llwyr i Gymru, gyda Llafur yn adeiladu dim ond 59 o dai yng Nghymru llynedd, a chynllun cartrefi cychwynnol y Ceidwadwyr methu darparu hyd yn oed un. Nod Plaid yw adeiladu 20,000 o gartrefi ledled Cymru, yn ogystal â darparu credyd treth o £25 i'r rheini sy'n gwario dros 30% o'u hincwm ar dai. Byddwn hefyd yn gweithredu polisi 'tai'n gyntaf' ac argymhellion adroddiad Crisis er mwyn mynd i'r afael a di-gartrefedd unwaith ac am byth.
8. Pensiynau i'n pobl
Byddai Plaid Cymru yn gwneud yn iawn am yr anghyfiawnder pensiaynu mae ein pobl wedi ei ddioddef gan Llywodraeth Prydain - byddwn yn mynnu fod menywod WASPI yn derbyn iawndal llawn am y pensiynau a gafodd eu gwadu iddynt - fel ein glowyr.
Byddwn hefyd yn amddiffyn buddaliadau pensiwn a chadw'r glo driphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth.
9. Cymru yn Ewrop
Byddwn yn dod a llanast Brecsit San Steffan i derfyn drwy roi'r dewis yn ol yn nwylo'r bobl - ble bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
10. Ni yw Cymru
Ac yn olaf, rydym wedi sefydlu comisiwn annibyniaeth i edrych ar sut y gall Cymru ddod yn wlad annibynol o fewn y ddegawd nesaf. Ni yw'r dyfodol.