Chwit-chwatrwydd am y maniffesto yn dangos fod Llafur eisiau cyflwyno Brexit heb refferendwm o’r newydd

_105225251_adamprice17jan19.jpg

Cafwyd adroddiadau yn hwyr y prynhawn yma fod Cyngor Cenedlaethol Llafur wedi penderfynu na fydd maniffesto’r blaid ar gyfer etholiad Ewrop yn cynnwys addewid cadarn i gynnal Pleidlais y Bobl.

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC:

“Mae’n ddiamau bellach mai pleidlais y Bobl yw’r unig ffordd allan o’r llanast Brexit hwn, ond y cwbl mae Llafur wedi llwyddo i’w wneud heddiw yw ymddangos yn chwit-chwat. 

“Eglurder oedden ni eisiau. Dryswch bwriadol gawson ni. Yr unig beth amlwg yw awydd Llafur am drwydded i gyflwyno Brexit heb refferendwm o’r newydd. 

“Gall pawb sydd wedi syrffedu ar gemau Llafur yn awr weld mai Plaid Cymru yw’r unig blaid dros Aros a all ennill yng Nghymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.