Materion Cyfansoddiadol Pellach
Dylai penderfyniad am ddosbarthu a defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd wedi cymryd lle Cronfeydd Strwythurol Ewrop, gael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid gan Lywodraeth y DG yn San Steffan.
Dan y drefn gyfansoddiadol bresennol, buasem yn croesawu cyflwyno pleidleisio yn 16 oed i etholiadau San Steffan ac am Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd fel sydd gennym eisoes yng Nghymru ar gyfer etholiadau lleol a rhai’r Senedd.
Ar yr un pryd, buasem yn rhoi terfyn ar yr atal pleidleiswyr mewn etholiadau a gyflwynwyd yn ddiweddar trwy’r gofyniad i ddangos ID mewn gorsafoedd pleidleisio, ac yn canoli ymdrechion yn hytrach ar sicrhau fod pob darpar-bleidleisiwr ar y rhestr etholwyr.
Yn etholiadau’r DG, buasem yn cefnogi cynrychiolaeth gyfrannol fel bod cyfran uwch o bleidleisiau yn mynd i ethol cynrychiolwyr, yn hytrach na chael eu gwastraffu. Mae’n well gennym ni system ethol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, a byddwn yn pwyso eto am i hyn gael ei ddefnyddio yn etholiad y Senedd yn 2026.
Nid yw Plaid Cymru yn cefnogi Tŷ’r Arglwyddi, a byddwn yn parhau i bledio’r achos dros ei ddileu. Fodd bynnag, tra bydd gan y sefydliad hwnnw bwerau deddfwriaethol dros Gymru, byddwn yn parhau fel plaid i gymryd rhan mewn dadleuon yno.
Bydd Plaid Cymru yn ei gwneud yn drosedd i wleidyddion etholedig gamarwain y cyhoedd yn fwriadol. Byddai’n drosedd i wleidydd etholedig neu ymgeisydd gamarwain yn fwriadol trwy wneud datganiad y gŵyr sy’n ffals neu’n dwyllodrus.