Materion Tramor ac Amddiffyn

Cred Plaid Cymru y dylai Cymru fod yn genedl sofran annibynnol ac yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig, gan ymgymryd â swyddogaeth a chyfrifoldebau yr aelodaeth honno.

Credwn y byddai Cymru ar ei hennill o ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd ar adeg briodol, gan gydnabod methiant Brexit.

Yn y cyfamser, dylai’r DG ymuno â’r Farchnad Sengl Ewropeaidd a’r Undeb Tollau mor fuan ag sy’n ymarferol. Dylai Cymru allu cymryd rhan mewn rhaglenni Ewropeaidd, gan gefnogi ein sectorau prifysgol a chreadigol yn benodol, a chaniatáu’r Rhyddid Symud a wadwyd mor andwyol ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Tan hynny, dylai Llywodraeth Cymru gymryd rhan lawn yn y strwythurau sy’n llywodraethu’r berthynas bresennol rhwng yr UE-DG, dan y Cytundebau Ymadael a Masnach a Chydweithio. Dylai Cymru fod wrth y bwrdd pryd bynnag y gwneir penderfyniadau amdanom a throsom.

Mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi ein chwaer bleidiau yng Nghynghrair Rydd Ewrop ar draws amred o wledydd Ewrop, ac i gefnogi hawl pobloedd ledled y byd i ymreolaeth, i’w gyrraedd trwy ddulliau di-drais a democrataidd.


Darllen mwy