Matthew Jones yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Torfaen. Mae Matthew yn byw yn Oakfield yn yr etholaeth ac yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu yn Senedd Cymru.
Magwyd Matthew ym Mhont-y-pŵl a mynychodd Ysgol Gyfun Gwynllyw cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ganddo brofiad fel gweithiwr achos yn Senedd Cymru yn helpu pobl gydag ystod eang o faterion, o iechyd i dai, o addysg i dreth gyngor.