'Rhowch fyfyrwyr meddygol ar lwybr cyflym' i ymdrin â phwysau Coronafirws ar y GIG, medd Arweinydd y Blaid Adam Price
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price y dylai myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf gael ei rhoi ar ‘lwybr cyflym’ trwy eu cyrsiau fel y gallant weithio ar y rheng flaen mewn ysbytai i frwydro yn erbyn y clefyd Coronafirws.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru oherwydd y bydd ysbytai toc wedi eu “gorlwytho” â chleifion Coronafirws, y dylid “ymdrin fel mater o frys” â “gallu gofal critigol” ysbytai, a bod ar y GIG angen “dybryd am fwy o staff ac adnoddau”.
Gofynnodd hefyd i Lywodraeth Cymru roi ‘eglurder ar frys’ ynghylch yr hyn maent yn wneud i “ganfod neu gynhyrchu” mil yn ychwanegol o beiriannau anadlu i drin cleifion sydd angen gofal dwys.
Ychwanegodd Mr Price y dylid cael wardiau Covid-19 “dynodedig wedi eu hynysu” ym “mhob ysbyty dosbarth cyffredinol” yng Nghymru. Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y dylai “wardiau nad ydynt yn cael eu defnyddio” hefyd gael eu dwyn i mewn i ddefnydd er mwyn sicrhau y byddai “digon o le”, yn ogystal ag ysbytai preifat, ysbytai’r fyddin, gwestai a hosteli.
Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar hyn o bryd yn hunan-ynysu gartref wedi i’w fab ddatblygu symptomau Covid-19.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,
"Gydag ysbytai ar fin cael eu gorlwytho â chleifion Coronafirws sydd angen gofal meddygol brys, rhaid ymdrin rhag blaen â gallu ein hysbytai i roi gofal critigol.
"Mae arnom angen wardiau dynodedig Covid-19 wedi eu hynysu ym mhob ysbyty dosbarth cyffredinol ledled Cymru, a throi wardiau nad ydynt yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau y bydd digon o le ar gael.
"Hefyd, rhaid dwyn i mewn ysbytai preifat, ysbytai’r fyddin, gwestai a hosteli i helpu i ddarparu mwy o le.
"Rydym angen mwy o staff ac adnoddau fel mater o frys. Dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth rhag blaen i gyflymu hyfforddiant myfyrwyr meddygol ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau a’u cael i weithio ar y rheng flaen yn ein hysbytai.
"Hefyd, mae arnom angen eglurder yn syth ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn wneud i ganfod neu gynhyrchu mil yn ychwanegol o beiriannau anadlu er mwyn sicrhau bod gan ein hysbytai yr holl gyfarpar angenrheidiol a’u bod yn gallu trin pob dinesydd fydd angen gofal dwys.
“Dylid rhoi blaenoriaeth i ofalu sylfaenol ac acíwt er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein dinasyddion.”