Rhun ap Iorwerth yn amlinellu camau i wella gwasanaethau
Mae angen mwy o therapïau siarad a mwy o arian i wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc os ydym am roi i bobl â phroblemau iechyd meddwl y gefnogaeth y mae arnynt ei angen, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r stigma ynghylch iechyd meddwl oedd un o’r problemau mwyaf y mae’n rhaid i gymdeithas ei goresgyn.
Mewn dadl yn y Cynulliad, bydd Rhun ap Iorwert yn tynnu sylw hefyd at gynnydd mewn amseroedd aros am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS), gan nodi fod nifer y bobl ifanc sy’n aros dros 16 wythnos am apwyntiad wedi mwy na dyblu dros y 3 blynedd diwethaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth:
“Un o’r heriau mwyaf y mae’n rhaid i ni ei goresgyn fel cymdeithas yw’r stigma ynghylch problemau iechyd meddwl. Bydd un o bob pedwar o oedolion yn cael problem iechyd meddwl mewn unrhyw un flwyddyn, ac y mae 13% o oedolion ar hyn o bryd yn cael eu trin am broblem iechyd meddwl. Mae rôl i ni i gyd trwy fod yn fwy ymwybodol o broblemau iechyd meddwl, a bod yn barod i siarad.
“Gwyddom hefyd fod amseroedd aros am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS) yn rhy hir. Mae nifer y bobl ifanc sy’n aros mwy na 16 wythnos am apwyntiad wedi saethu i fyny o ryw 400 y mis yn haf 2013 i dros 1000 bob mis trwy gydol 2016.
“Rhaid symud iechyd meddwl a lles pobl ifanc i fyny’r agenda wleidyddol. Wrth gwrs, y man cychwyn yw buddsoddi mewn gwell cefnogaeth i ysgolion i helpu i i warchod iechyd meddwl pobl yn eu harddegau. Ond rhaid i ni edrych hefyd ar ddatblygu mwy o therapïau siarad yn gyffredinol, a rhaid i ni weithio yn agosach â’r gwasanaeth iechyd i ddatblygu ymryiadau cynharach pan fydd problemau yn codi.”