Tegwch i Fenywod mewn Cyfiawnder
Cred Plaid Cymru nad yw menywod yn derbyn chwarae teg bob amser yn ein system cyfiawnder troseddol.
Mae dedfrydau o garchar ar fenywod yn cael eu treulio y tu allan i Gymru, sy’n cael effaith ar amser teithio i deuluoedd, darparu gwasanaethau yn Gymraeg, a thorri cysylltiad â’u cymunedau.
Mae’r rhan fwyaf o fenywod sy’n cael eu carcharu yno am gyfnodau byr yn unig, sy’n llai effeithiol o ran gostwng troseddu ond sydd yn cael cryn effaith cymdeithasol.
Byddwn yn canolbwyntio ar leihau troseddau trwy adnabod y rhesymau pam fod menywod yn troseddu a thrwy weithio gyda phartneriaid i ddatrys y problemau hyn, ac adolygu effeithiolrwydd dedfrydau byr o garchar i fenywod sy’n troseddu.
Fel rhan o’r gwaith cyson hwn i leihau troseddu, mae Plaid Cymru eisiau sefydlu pedair canolfan yn y gymuned i fenywod ledled Cymru er mwyn cefnogi menywod sy’n troseddu. Byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru i gyflwyno hyn, gyda chanolfan yr un yn y gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain, de-orllewin a’r de-ddwyrain.