Ffynhonnell arian mewnfudo yn prisio anwyliaid allan o’r DG

Rhowch y gorau i elwa o ffioedd annheg am fisas, medd Hywel Williams AS

Mewn dadl seneddol heddiw, bydd Hywel Williams AS yn galw ar y Gweinidog Mewnfudo i “edrych mewn difrif calon” ar ffioedd fisa, sydd wedi dod yn “ffynhonnell arian reit ddel” i Lywodraeth Prydain.  Bydd Mr Williams yn gwneud hyn mewn dadl yn Neuadd San Steffan a lwyddodd i’w chael ar bwnc y strwythur ffioedd am geisiadau am fewnfudo.

Mynnodd Mr Williams gael y ddadl wedi i un o’i etholwyr dynnu sylw at anghyfiawnder y system ffioedd, a all gynhyrchu dros £1,000 o elw am bob cais i Lywodraeth San Steffan.

Yr oedd astudiaeth a gynhaliwyd gan yr Arolygwr Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo, David Bolt,  a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill,  wedi gweithio allan beth oedd y ffioedd, a’r ffaith eu bod yn gwneud elw aruthrol i’r Llywodraeth.

Yn yr adroddiad –An inspection of the policies and practices of the Home Office’s Borders Immigration and Citizenship Systems relating to charging and fees – mae Mr Bolt wedi gweithio allan, pan wneir cais o’r tu allan i’r wlad am setlo trwy lwybr y teulu, fod gweddill o £1,135 yn dod ar ben y ffi. Mae hyn yn golygu y bydd pob ymgeisydd yn bersonol wedi talu bedair gwaith union gost (£388) cais am fisa.  

Nid yw codi tâl enbyd o ormodol wedi ei gyfyngu’n unig i setlo trwy lwybr y teulu - mae Llywodraeth Prydain yn gwasgu arian allan o amrywiaeth o bobl sy’n ceisio byw yn yr un gwlad â’u hanwyliaid, yn ôl yr adroddiad.

Yn ystod y ddadl, bydd Mr Williams yn gwneud yr achos dros ddiwygio’r system yn sylweddol, i atal yr ymelwa hwn a gwneud yn siŵr fod pobl yn talu cyfran deg am yr hawl i fyw gyda’i gilydd yn y wlad maent yn galw’n gartref iddynt.

Yn ystod y ddadl yn Neuadd San Steffan, fe ddywed Hywel Williams AS:

“I lawer, mae’r broses o ddod â phriod drosodd o dramor i gyd-fyw yma yn y DG yn gymhleth, anodd a chostus. I Lywodraeth Prydain, fodd bynnag, mae biwrocratiaeth mewnfudo wedi troi yn ffynhonnell o elw reit ddel.

“ Yn ddiweddar, codwyd y tâl ychwanegol hwn ar un o’m hetholwyr oedd yn noddi cais ei briod oedd y tu allan i’r AEE am setlo yn y DG. Yn hytrach na dim ond codi’r gost syml o weinyddu o £388, dewisodd y Swyddfa Gartref godi ffî fympwyol ychwanegol o £1,135. Mewn gwirionedd, mae’r Llywodraeth yn gwneud 300% o elw ar bryniant ‘moethus’ f’etholwr – yr hawl i fyw ynghyd yn y lle mae’n galw’n gartref.

“Mae polisi o’r fath yn asio’n berffaith â throthwy mewnfudo annymunol Llywodraeth Prydain o £30k, sydd wedi ei osod arnom gan lywodraeth sy’n gwybod pris popeth ond heb wybod gwerth dim. A Llywodraeth Prydain sydd wedi gostwng popeth – priodas, hyd yn oed – i swm o arian.

“I Lywodraeth Prydain mae codi tâl am gostau gweinyddu ceisiadau gwŷr a gwragedd am fewnfudo yn anghyfleustra ar y gorau – ond y mae elwa o’r sefyllfa fel hyn yn anfaddeuol. Mae’r Swyddfa Gartref yn prisio allan gyplau na fedrant fforddio tâl afresymol o £1,523, ac yn elwa ar y sawl fedr dalu.

“Rhaid i’r Gweinidog Mewnfudo edrych o ddifrif am system y strwythur o ffioedd am fisas yn y DG. Yr hyn sydd arnom ei angen yw system fewnfudo sy’n gwneud i ffwrdd â’r taliadau a’r trothwyau mympwyol hyn, ac yn hytrach drin pobl gyda’r urddas maent yn ei haeddu.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.