Mudo a Lloches
Mae Plaid Cymru yn gryf yn erbyn cynigion ac agwedd Llywodraeth Geidwadol y DG tuag at geiswyr lloches a ffoaduriaid, gan gynnwys eu halltudio i Rwanda, a’r amgylchedd gelyniaethus gyffredinol a grëwyd. Credwn y dylai’r DG gynnal yr ymrwymiadau a wnaeth pan lofnododd y Cytundeb Ffoaduriaid yn 1951.