Neges gan Adam Price

Ar y 6ed o Fai, bydd Cymru’n dewis Llywodraeth newydd.

Wrth i ni ddod allan o gysgod Covid-19, dyma’n cyfle ni i ddewis llwybr newydd, llwybr at ddyfodol gwell na all neb ond ni ei greu, dyfodol o bosibiliadau gwahanol, o egni newydd ac o obaith.

Rwy’n credu’n ddiffuant bod Plaid Cymru, yn yr etholiad yma, yn cynnig y rhaglen fwyaf radical o uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gael ei chynnig gan unrhyw blaid mewn etholiad yng Nghymru ers 1945.

Mae’n edrych ymlaen at y Gymru hyderus, lwyddiannus y gallwn ni ei chreu – cenedl gyfartal lle mae pawb yn gydradd – ac mae’n amlinellu polisïau ymarferol, cyraeddadwy sydd wedi’u costio’n llawn, y gallwn ni eu rhoi ar waith er mwyn symud yn nes at y Gymru newydd.

Mae’n cynnig cyfle i wlad sydd wedi dod i oed, gwlad y bydd ei phennod nesaf yn decach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus na’r degawdau o drueni a ddaeth o’i blaen.

Mae’r maniffesto yn amlinellu ein syniadau a’n gweledigaeth ar gyfer creu dyfodol disglair, gyda’n gilydd, o dan arweinyddiaeth ffres Llywodraeth Plaid Cymru.

Dyma’n cyfle ni i greu’r dyfodol newydd yna.

Fe fyddwn ni’n rhoi dechrau da i bob un o blant Cymru. Fe fyddwn ni’n cyflwyno cynllun fel llwybr at lwyddiant ar gyfer y wlad gyfan. Fe fyddwn ni’n sicrhau bod arian y cartref yn mynd ymhellach drwy roi chwarae teg i deuluoedd, gweithwyr a busnesau bach. Fe fyddwn ni’n dysgu gwersi’r pandemig, drwy gyflwyno gwasanaeth iechyd a gofal di-dor, ac fe fyddwn ni’n wynebu’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth drwy gymryd y camau radical mae’r eiliad yma mewn hanes yn eu mynnu. Fe fyddwn ni’n rhoi diwedd ar newyn plant, tlodi tanwydd a digartrefedd o fewn pum mlynedd. Ac yn ymrwymo i godi cenedl sy’n rhoi cyfle i bawb fyw bywyd da.

Y gwanwyn yma yw ein cyfle hanesyddol ni i benderfynu dod yn awduron ein dyfodol disglair ein hunain.

Am y tro cyntaf erioed yn etholiadau Senedd Cymru, mae gan bobl ein gwlad gyfle i bleidleisio i roi eu dyfodol eu hunain yn eu dwylo nhw eu hunain.

Rydyn ni’n credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd bendant a chynaliadwy o sicrhau cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu ar ddyfodol ein gwlad mewn refferendwm annibyniaeth.

Ond mae’r gwaith o greu Cymru yfory yn dechrau heddiw. Fel eich Prif Weinidog, fe fydda i’n gweithredu ar sail y gred nad oes yr un broblem yng Nghymru na all Cymru ei datrys. Fe ddefnyddia i fy egni a’r holl rym fydd ar gael i fi i wireddu potensial ein gwlad a dod â chyfle a ffyniant i Gymru ben baladr.

A finnau wedi cael fy magu yn Nyffryn Aman, fy mam yn Saesnes a ’nhad yn löwr o Gymro, ro’n i’n gweld cefn gwlad Cymru i’r gorllewin a’r Gymru ddiwydiannol i’r dwyrain. Fe sylweddolais i bod yr hyn sy’n ein huno ni fel cenedl, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, yn drefol a gwledig, yn y gogledd, y de, y gorllewin a’r dwyrain, yn llawer pwysicach ac yn llawer mwy cadarn na dim byd sy’n ein gwahanu ni.

Fe fydda i’n Brif Weinidog ar gyfer Cymru gyfan a phawb yng Nghymru, ar gyfer Cymru heddiw a Chymru yfory, fel gwlad fydd yn benderfynol o wireddu ei photensial fel bod pawb o fewn ei ffiniau yn gallu gwireddu eu potensial hefyd.

Bydd y dyfodol yn well na’r gorffennol, os ydyn ni’n benderfynol o wneud i hynny ddigwydd. Felly beth am adeiladu y Gymru newydd gyda’n gilydd a chymryd y cam cyntaf yma ar y 6ed o Fai.

Pleidleisiwch o blaid Cymru.

Adam Price