Cynnig gofal plant newydd Llafur yn ffafrio’r cyfoethog ond yn eithrio’r tlotaf

gofal_(1).jpg

Plaid Cymru yn condemnio polisi sy’n rhoi cymhorthdal i deuluoedd sy’n ennill £200,000 y flwyddyn.

Bydd polisi gofal plant newydd Llafur yn rhoi cymhorthdal gofal plant am ddim i’r teuluoedd cyfoethocaf ond yn eithrio’r sawl sydd ar yr aelodwyd tlotaf ac sydd am ddychwelyd i waith, medd ysgrifennydd addysg cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd AC, wrth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyhoeddi eu hadroddiad Cam 1 ar Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru).

Wrth gadarnhau bwriad Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn caniatáu i’r Bil fynd rhagddo i’r cam deddfwriaethol nesaf, dywedodd Llyr Gruffydd AC,

“Dychmygwch bolisi fyddai’n darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i gyplau da eu byd sy’n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn ond ar yr un pryd heb fod yn rhoi’r un peth i rieni sydd am ddychwelyd i waith. Fe fyddai pobl yn dyfalu pa felin drafod aden-dde wallgo ddyfeisiodd y math yna o system annheg. Ac eto, dyna mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn bwriadu wneud. Os llwyddiant i gael hyn drwodd, byddant yn gwneud y bwlch cyrhaeddiad rhwng y plant tlotaf a’r cyfoethocaf yn gagendor enfawr.

“Ar y llaw arall, addawodd maniffesto etholiadol Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ofal plant am ddim, fyddai ar gael i bob plentyn 3-4 oed. Prif bwrpas y polisi hwn, a gostiwyd yn llawn, oedd rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn. 

“Dengys yr holl dystiolaeth fod gallu cael gofal plant o ansawdd da yn cryfhau sgiliau gwybyddol a chymdeithasol plant. Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd wedi amlygu’n glir fanteision hyn i ddatblygiad geirfa a llythrennedd, a bod hyn yn ei dro yn gwella cyrhaeddiad addysgol.”

“Mae hyn yn arbennig o wir am blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Mae bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi ac y mae llawer heb ddod dan ddarpariaeth Dechrau’n Deg, felly rwy’n arbennig o awyddus i’r plant hynny beidio â chael eu gadael ar ôl.”

Dywedodd Llyr Gruffydd AC na allai gefnogi polisi Llafur o ddarparu gofal plant am ddim yn unig i rieni sy’n gweithio – gan gynnwys cyplau sy’n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn, ac sydd ar yr un pryd yn gwadu’r un cyfle i’r sawl o’r aelwydydd tlotaf, di-waith.

Rhennir ei bryderon gan lawer ar draws y sector, yn bennaf Comisiynydd Plant Cymru, mudiadau plant megis Achub y Plant ac undebau athrawon fel yr NASUWT.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC

“Mae’r polisi yn targedu cyllid trwy gyfyngu ei ddarpariaethau i blant rhieni sy’n gweithio yn unig. Disgrifiodd y Comisiynydd Plant Fil Llafur fel un sy’n rhoi cymhorthdal mawr i rai o deuluoedd cyfoethocaf Cymru, gan rybuddio fod cau allan rieni nad ydynt yn gweithio yn ‘debygol o ategu anghydraddoldeb mewn canlyniadau i wahanol grwpiau cymdeithasol’.

“Mae’n frawychus nodi fod plant tair oed yn unig o’r teuluoedd tlotaf eisoes rhyw 10 mis y tu ôl i’r rhai o gefndiroedd gwell eu byd o ran datblygiad. Mae perygl i’r polisi hwn ledu’r bwlch hwnnw o ran bod yn barod ar gyfer yr ysgol, ac y mae plant sy’n disgyn yn ôl yn gynnar yn fwy tebygol o fod ar ei hôl hi trwy gydol eu haddysg.

“Oherwydd bod y rhan fwyaf o blant sydd mewn tlodi yn byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig Dechrau’n Deg, bydd y plant difreintiedig hyn yng Nghymru yn cwympo trwy’r bylchau ac yn cael eu hunain heb y gefnogaeth gofal plant  y bydd eu cymheiriaid cyfoethocaf yn fwynhau. 

“Mae’n eironig fod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Bil hwn, Huw Irranca-Davies, yn ddiweddar wedi seilio ei gais am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru ar yr angen am ddarpariaeth cyn-ysgol i bob plentyn. Mae ef ei hun wedi cyfaddef fod gofal plant i bawb, sef yr hyn a gynigir gan Blaid Cymru, yn helpu i ymdrin ag effeithiau tlodi. Mae’n cau’r bwlch cyrhaeddiad pan fydd plant yn cychwyn yn yr ysgol. Ac y mae’n trawsnewid cyfleoedd y plant hyn mewn bywyd wrth iddynt dyfu’n oedolion a thrwy gydol eu bywydau. 

“Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am ofal plant yng Nghymru mae ganddo’r grym i gyflwyno gofal plant i bawb yn awr. Yn wir, petai wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad diwethaf y Cynulliad, buasem ni eisoes wedi dechrau ei gyflwyno.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.