Etholaeth: Blaenau Gwent a Rhymni

Niamh Salkeld

Niamh yw eich ymgeisydd ar gyfer Blaenau Gwent a Rhymni.

Yn blentyn i rieni dosbarth gweithiol yng Nghasnewydd, mynychodd Niamh Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Parhaodd â’i haddysg ac aeth i astudio gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau a gradd Meistr.

Ers hynny, bu'n gweithio fel athrawes gyflenwi mewn ysgol uwchradd Gymraeg am gyfnod byr cyn cael swydd fel Ymchwilydd Gwleidyddol dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Addysg a’r Celfyddydau i grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.

Fel eiriolwr cryf dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, bydd Niamh yn sicrhau bod ei hymgyrch yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi plant, cefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a gwella ffyniant ar draws Blaenau Gwent a Rhymni.

Mae Niamh yn edrych ymlaen i ymgyrchu yn etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni, cwrdd â phobl leol a gwrando ar eu pryderon.