Gwella’r Nifer sy’n Hawlio Budd-daliadau
Mae gan lawer o bobl hawl i fudd-daliadau ond nid ydynt fyth yn eu hawlio, naill ai am nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn gymwys neu nad ydynt yn cael eu cefnogi’n iawn i hawlio trwy’r system. Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amcangyfrif bod hyn tua £23bn y flwyddyn ar hyd y DG.
Byddwn yn adolygu darpariaeth budd-daliadau heb fod yn gyffredinol neu’n awtomatig y gellir eu gwneud yn fwy hygyrch trwy ymuno’n awtomatig neu trwy ymgyrchoedd anffurfiol, yn ogystal â helpu mudiadau cynghori ac awdurdodau lleol i hyrwyddo’r budd-daliadau hyn i bobl all fod yn gymwys.