Teitl: Dyfodiad y Pandemic

Artist: Iwan Bala (gwefan)

Cyfrwng: Cyfrwng cymysg ar bapur Khadi

L11_Dyfodiad_y_Pandemic_(1)_1000x.png

Maint: 43cm x 30cm

Dyddiad: 2020

Pris cadw: £600

Am yr artist: Mae Iwan Bala yn adnabyddus fel artist, awdur a darlithydd. Mae wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn flynyddol ers 1990, wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp yng Nghymru a thramor, ac mae ei waith i’w weld mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat. Dangoswyd ei waith mewn pedair dinas yn Tsieina yn 2009. Mae wedi cyhoeddi llyfrau a thraethodau ar gelf gyfoes yng Nghymru, wedi darlithio yn aml ar y pwnc, yn ogystal â chyflwyno a chael ei gyfweld ar y cyfryngau. Trafodir gwaith Iwan Bala mewn nifer helaeth o gyhoeddiadau ar gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.

Cliciwch am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â'r ocsiwn neu i gynnig pris o flaen llaw.