Addysg Ôl-16
Bydd Plaid Cymru yn gosod addysg alwedigaethol ar yr un sylfaen a dysgu academaidd yn yr ysgol a’r brifysgol.
Comisiynwyd adolygiad annibynnol o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Gwnaeth 33 o argymhellion ar gyfer y Comisiwn newydd ar Addysg ac Ymchwil Drydyddol a Chymwysterau Cymru. Fe wnawn ni’n siwr y gweithredir ar y rhain.