Pam bod yn Gynghorydd?
Does yr un rôl arall yn rhoi cyfle i chi wneud cymaint o wahaniaeth i’ch cymuned leol.
Mae llawer o resymau cadarnhaol dros fod yn Gynghorydd. Gall rhai o’r isod, neu’r cyfan, fod yn wir amdanoch chi:
- Gwneud gwahaniaeth a helpu i lunio dyfodol eich cymuned(au) lleol.
- Efallai eich bod yn pryderu am eich ardal leol a’ch bod eisiau gofalu bod y gymuned yn cael y gwasanaethau iawn.
- Rydych eisiau gwneud yn siŵr fod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed a’u hystyried pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud.
- Nid ydych yn hapus â’r ffordd mae eich cymuned wedi ei chynrychioli ac yr ydych yn credu y gallwch fod yn well pencampwr dros y gymuned.
- Mae gennych syniadau da i’ch cyngor a’ch cymuned.
- Mae gennych sgiliau arbennig y gallwch eu dwyn i’r gymuned.
- I adeiladu ar waith cymunedol trwy elusen, grŵp gwirfoddol neu gorff llywodraethol ysgol
- Helpu i adeiladu presenoldeb Plaid Cymru yn y gymuned a sicrhau fod gan Blaid Cymru yn lleol y blaenoriaethau iawn ar gyfer eich ardal.
Fel y dywed y Gymdeithas Llywodraeth Leol: gall bod yn Gynghorydd hefyd wella eich gyrfa, gan ganiatáu i chi ddatblygu sgiliau arwain a dadansoddi, a chael profiad ymarferol o waith rheoli.
Mae cynghorwyr hefyd yn derbyn lwfans am eu hamser. Er enghraifft, yr oedd pob Cynghorydd Sir yn derbyn cyflog blynyddol sylfaenol o £13,868 yn 2019/2020
Os byddwch yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol megis Cadeirydd Pwyllgor neu safle ar Gabinet y Cyngor, byddwch yn derbyn cyflog ychwanegol.