Paul Penlington yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Dwyrain Clwyd.
Mae Paul yn gwirfoddoli yn y banc bwyd lleol ac i elusen plant. Bu’n Gynghorydd Sir ym Mhrestatyn o 2012-2022 ac roedd yn un o’r Cynghorwyr mwyaf gweithgar ac ymroddedig yn y sir.
Yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd bu'n ymladd dros drigolion, o bethau sylfaenol fel cael y bin cywir i ymgyrchoedd mwy yn erbyn yr awdurdod lleol.
Gwireddodd Paul bob un o'i addewidion etholiadol yn ystod ei dymor yn y swydd. Nid yw’n ystyried ei hun yn wleidydd gyrfa, ond yn hytrach yn rhywun sydd yn credu mewn cymdeithas fwy cyfartal, yn gweithio i eraill ac yn gweithio i gael cyfiawnder cymdeithasol i bawb.
Yn ei ieuenctid bu Paul yn gweithio yn y diwydiant adeiladu cyn dychwelyd i addysg fel myfyriwr aeddfed. Ar ôl bod yn y brifysgol bu’n gweithio i elusen plant gan reoli prosiectau cyn symud i fyd addysg yn 2006. Ar hyn o bryd mae’n dysgu Saesneg yng Ngholeg Cambria ar draws safleoedd Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi. Ei brif ddiddordeb academaidd ac addysgu yw gweithio gyda phobl ifanc ag Awtistiaeth ac ADHD.
Mae gwaith elusennol ac addysg Paul wedi dod ag ef i gyswllt â llawer o bobl sy'n byw mewn amgylchiadau anodd iawn. Gweld plant a theuluoedd yn dioddef o ganlyniad uniongyrchol i fethiannau gwleidyddion yw'r hyn a'i harweiniodd i geisio newid pethau drosto'i hun. O dan lywodraethau Llafur a Thorïaidd mae'n gweld bod pethau'n mynd yn anoddach gyda'r naill na'r llall yn bwriadu helpu ei gymuned. Mae gan Paul brofiad o roi pobl leol yn gyntaf bob tro, ac mae’n gobeithio bod yn llais cryf dros Ddwyrain Clwyd yn San Steffan.