Paul Rowlinson yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Gogledd Clwyd.
Ganwyd Paul Rowlinson yn Swydd Gaer, a bu’n gweithio yn y diwydiant cemegol yn yr Almaen cyn symud i Gymru i hyfforddi fel athro ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n gweithio wedyn ym maes tai a chyllid llywodraeth leol. Yn awr mae’n gyfieithydd llawrydd ac yn gweithio ledled y gogledd. Mae’n briod ac mae ganddo dri o blant. Mae’n byw ym Methesda ac yn gwasanaethu ar Gyngor Gwynedd ers saith mlynedd, gan weithio’n ddiflino ar faterion fel tai, llifogydd, ffyrdd a gwastraff. Mae Paul wedi helpu i sefydlu a rhedeg cynllun hydro-electrig cymunedol sydd wedi lleihau’r ôl-troed carbon yn lleol ac sy’n cynhyrchu incwm er budd y gymuned leol. Gydag eraill fe sefydlodd grŵp gwirfoddol llwyddiannus sy’n gofalu am yr amgylchedd lleol. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Llyfrau Cymru ac yn gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethu ei ysgol uwchradd leol.