Plaid yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng addysg uwch

IMG_0695.JPG

AC y Blaid Bethan Sayed yn galw ar i’r llywodraeth ymyrryd i atal yr argyfwng llywodraethiant a chyllido ym mhrifysgolion Cymru.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Wrth siarad cyn dadl Plaid Cymru heddiw, dywedodd Bethan Sayed AC a gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros addysg ôl-16 fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd am lywodraethiant prifysgolion Cymru.

Dadleuodd Ms Sayed nad yw prifysgolion yng Nghymru yn llawn annibynnol am eu bod yn derbyn arian cyhoeddus trwy HEFCW – un o gyrff Llywodraeth Cymru, a bod gan Lywodraeth Cymru felly gyfrifoldeb uniongyrchol i ddal sefydliadau AU yng Nghymru i gyfrif a sicrhau y cedwir at y broses lywodraethiant a bod arian gan HEFCW yn cael ei wario’n briodol.

Dywedodd Bethan Sayed AC fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu “adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol" y sector prifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â rhoi mandad i HEFCW ymyrryd i atal unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru rhag mynd yn fethdalwr yn y dyfodol agos – trwy gyfrwng benthyciad brys os bydd angen.

Ychwanegodd fod “angen clir i fyfyrwyr a staff” fod yn bartneriaid ym mhob ffurf o wneud penderfyniadau mewn prifysgolion – gan gynnwys penderfyniadau ynghylch hyfywedd ariannol a staffio.

Dywedodd Ms Sayed na allai Llywodraeth Cymru ‘olchi eu dwylo’ o’r argyfwng ac anogodd hwy i gymryd cyfrifoldeb dros y sefyllfa cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Dywedodd Bethan Sayed AC a gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros addysg ôl-16,

“Mae’r argyfwng sy’n wynebu sector addysg uwch Cymru wedi arwain at golli nifer o swyddi dros y deuddeg mis diwethaf, ac y mae staff dan bwysau cynyddol i lenwi’r bylchau a adawyd gan y toriadau. Mae pryderon difrifol hefyd ynghylch llywodraethiant, atebolrwydd a chynaliadwyedd ariannol sefydliadau AU Cymru.

 “Mae Llywodraeth Cymru yn anghywir i honni fod prifysgolion yn “annibynnol” ac nad oes modd ymyrryd, ar waetha’r ffaith fod prifysgolion yng Nghymru yn derbyn arian cyhoeddus trwy HEFCW – corff a noddir ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, a HEFCW yn uniongyrchol atebol iddynt.

 “All Llywodraeth Cymru ddim golchi eu dwylo o’r argyfwng hwn. Mae ganddynt gyfrifoldeb uniongyrchol i ddal y sefydliadau hyn i gyfrif er mwyn sicrhau y cedwir at y broses lywodraethiant yn briodol a thryloyw, a bod arian gan HEFCW yn cael ei wario yn y ffordd iawn.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol y sector prifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â rhoi’r dasg i HEFCW yn benodol i ymyrryd i atal unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru rhag mynd yn fethdalwr. Ymhellach, mae angen clir i fyfyrwyr a staff fod yn bartneriaid ar bob lefel ac ar bob ffurf o wneud penderfyniadau mewn prifysgolion – gan gynnwys penderfyniadau am staff a hyfywedd ariannol sefydliadau.

“Polisi Llywodraeth y DG, yn y farchnad addysg uwch yn Lloegr, yw petai prifysgol yn ‘mynd i’r wal’, bydded felly. Mae arnom ni angen i Lywodraeth Cymru wneud yn hollol glir fod gwerth economaidd, cymdeithasol ac addysgol ein prifysgolion yn gyfryw fel na fyddent yn caniatáu i hynny ddigwydd yma yng Nghymru.

“Mae’r argyfwng sy’n prysur nesáu yn y sector AU yn golygu ei bod yn bryd i Llywodraeth Cymru weithredu – nawr. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.