Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Llywodraeth Cymru yn newid tôn, ond nid newid llwybr

Llyrwrthygat.jpeg

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o feddalu eu rhethreg ond dal i fwrw ymlaen a newidiadau arwyddocaol i daliadau amaethyddol wedi Brexit, ar waethaf rhybuddion am y bygythiadau y bydd hyn yn creu i ddiwydiant amaethyddol Cymru.

Dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros faterion gwledig Llyr Gruffydd AC fod yr ymgynghoriad diweddaraf ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru yn fwynach ei dôn o lawer o gymharu â’r ymgynghoriad cynharach Brexit a’n Tir ond rhybuddiodd ei fod yn mynd i’r un cyfeiriad.

Dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros faterion gwledig Llyr Gruffydd, 

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn llai ymosodol o lawer, ond mae’r Gweinidog yn dal wedi ymrwymo i roi terfyn ar daliadau sylfaenol i ffermwyr ac felly yr ydym yn dal i bryderu. Wedi Brexit byddai hyn yn golygu y byddai maes chwarae hynod anwastad gyda ffermwyr o’r UE 27 ynghyd â’r rhai o’r Alban a Gogledd Iwerddon fyddai’n dal i dderbyn cefnogaeth uniongyrchol - gan adael ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol.

“Mae’r ymateb gelyniaethus i’r ymgynghoriad cynharach yn amlwg wedi sbarduno Llywodraeth Cymru i newid eu tôn. Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn fwy cymodlon o lawer, gyda chyfeiriadau at ddatblygu cynigion trwy gydweithredu a chyd-gynllunio gyda’r sector. Mae’n gadarnhaol hefyd fod y Llywodraeth wedi derbyn yr angen i ganolbwyntio mwy ar wobrwyo ‘ffermwyr gweithredol’ a datblygu dewisiadau o ran capio  a graddoli taliadau.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson fod datblygu cynllun mor drawsnewidiol cyn i Brexit ddod i ben, a hyd yn oed heb wybod pa lefel o gyllid sydd ar gael, yn gynamserol. Tra bod y Llywodraeth yn awr yn cydnabod hyn yng nghyswllt unrhyw amserlenni a threfniadau trosiannol, buasem yn dadlau ei fod yn dal yn ystyriaeth ddilys i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Er enghraifft, a yw’r Llywodraeth yn awr yn disgwyl datblygu eu modelu a’u hasesiadau effaith cyn i lwch Brexit setlo? Oni fyddai gwneud hynny yn tanseilio eu dilysrwydd?

“Mae gen i amheuon hefyd am allu’r Llywodraeth i weithredu eu cynigion. Mae ymweld â phob fferm i drafod, cytuno a chyflwyno contractau cynllun cymhleth yn dasg enfawr. Mae profiad y gorffennol gyda chynlluniau llawer llai yn awgrymu y bydd hyn yn gostus ac yn mynnu llawer o lafur i’w gyflwyno. Yr wythnos ddiwethaf yn unig, dywedodd Lesley Griffiths wrthym nad oedd ganddi syniad faint o gyllid fyddai ganddi i gefnogi ffermwyr Cymru nac a fyddai ganddi unrhyw gyllid o gwbl. Nawr mae’n rhoi ar waith y newidiadau mwyaf a welwyd ers cenedlaethau, er nad oes ganddi syniad sut beth fydd yr amgylchedd gyllido.

“Mae’r holl ansicrwydd a achoswyd gan Brexit yn cael ei waethygu gan gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r newidiadau sylfaenol hyn. Bydd gan ffermwyr fydd yn mynychu’r Sioe Frenhinol ymhen pythefnos ddigon i’w drafod, ac y mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn, er ei fod yn well o ran tôn, ymhell o’r sefydlogrwydd a’r symlrwydd y mae ffermwyr Cymru yn crefu amdanynt.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.