Galw am eglurder ar ddysgu Hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd

33182209216_be8d9bb708_o.jpg

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Sian Gwenllian AC wedi galw am sicrwydd y bydd hanes Cymru yn rhan ganolog o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

 

Cadarnhaodd y Cwricwlwm drafft i Gymru y bydd fframwaith cenedlaethol i ysgolion adeiladau eu cwricwlwm eu hunain ac adeiladu arno, ond na fydd canllaw na maes llafur. Mae Hanes, yn hytrach na Hanes Cymru, ar y rhestr o bynciau a ddysgir gan y Dyniaethau.

Mynegodd Sian Gwenllian ei phryder y byddai peidio â chynnwys ‘hanes Cymru’ yn benodol yn y fframwaith yn golygu na fyddai gwarant y byddai hanes Cymru, neu ddigwyddiadau hanesyddol yn hanes Cymru, yn nodwedd o’r cwricwlwm newydd. 

Cynigiodd Ms Gwenllian felly y dylid newid ‘Hanes’ i ‘Hanes Cymru a’r Byd’ er mwyn eglurder.

Ychwanegodd Ms Gwenllian fod y cwricwlwm  newydd yn ‘gyfle gwirioneddol’ i sicrhau na fydd yr un disgybl yn cael ei amddifadu o’r cyfle i ddysgu am hanes Cymru ond rhybuddiodd, heb yr arbenigedd, hyfforddiant a’r adnoddau perthnasol, na fydd y ddeddfwriaeth yn creu’r newidiadau uchelgeisiol mae’n addo.

Dywedodd Sian Gwenllian AC, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg,

“Ni ddylai’r un disgybl yng Nghymru gael ei amddifadu o’r cyfle i ddysgu am hanes Cymru. Mae dysgu hanes Cymru yn un o gydrannau allweddol helpu’r genhedlaeth nesaf i ddod yn ddinasyddion gwybodus ac ymwybodol, nid yn unig o Gymru ond o’r byd, ac y mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn gyfle gwirioneddol i wneud yr union beth hwnnw.

“Ar hyn o bryd, Hanes, yn hytrach na Hanes Cymru, sydd ar y rhestr o bynciau a ddysgir gan y Dyniaethau. Fy nghynnig i yw y dylid newid ‘Hanes’ i ‘Hanes Cymru a’r Byd’ er mwyn eglurder, oherwydd ar hyn o bryd, tydyn ni ddim yn gwybod a fydd y canllawiau dilynol yn rhoi manylion am ba gyfnod o hanes Cymru, na digwyddiadau hanesyddol yn hanes Cymru, fydd yn ymddangos yn y cwricwlwm newydd. 

“Yr egwyddor y tu ôl i’r cwricwlwm newydd yw rhoi i athrawon y rhyddid i fod yn greadigol wrth ddysgu eu pwnc: mae hynny’n glodwiw ac yn dangos cydnabyddiaeth o alluoedd ein hathrawon. Fodd bynnag, o fod yn ymarferol, gellir dadlau bod cynigion y llywodraeth yn rhy niwlog ac fe allant arwain at anghysondeb ac anghydraddoldeb. Mae arnom angen manylion am y modd y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu – yn enwedig mewn hinsawdd o doriadau i gyllideb ysgolion.

“Rhaid i athrawon gael digon o amser a hyfforddiant i fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd. A’r hyn sy’n hollol hanfodol i ddysgu hanes Cymru yw bod yn rhaid canfod a datblygu adnoddau dysgu digonol. Rhaid harneisio arfer da ac y mae angen i brifysgolion chwarae eu rhan yn llawn wrth ddatblygu arfau newydd a chyffrous y gall athrawon eu defnyddio wrth gynllunio eu gwersi.

“Dylai pob disgybl dderbyn yr un cyfle i ddysgu am hanes Cymru yn ei holl ffurfiau, mewn ffordd sy’n eu herio a’u hysbrydoli. Ond ar ddiwedd y dydd, oni fydd yr arbenigedd, hyfforddiant a’r adnoddau ar gael, ni fydd deddfwriaeth yn creu’r newid yr ydym oll eisiau ei weld.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.