Plaid yn galw i ddirymu rheoliadau diffygiol gofal iechyd yn y Gymraeg

arms-care-check-905874.jpg

Hawliau pobl mwyaf bregus cymdeithas i gael gwasanaethau iechyd yn eu hiaith eu hun yn y fantol.

Mae Plaid Cymru yn galw ar ddirymu rheoliadau’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol a’r Gymraeg gan eu beirniadu yn hallt am fod yn “ddiffygiol”.

Yn ol Plaid Cymru, nid yw’r rheoliadau yn sicrhau “hawl cyfreithadwy o werth” nac ychwaith yn rhoi sicrwydd i wasanaeth Cymraeg – hyd yn oed pan fo hynny’n fater o angen clinigol.

Ddoe, beirniadodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y rheoliadau gan ddweud fod y sawl sydd yn dymuno derbyn darpariaeth iechyd drwy’r Gymraeg yn cael eu trin yn eilradd o’r herwydd.

Heddiw mae Plaid Cymru yn cynnal dadl i ddirymu’r rheoliadau am nad ydynt yn sicrhau sicrwydd nac hawl cyfreithiadwy i  i wasanaeth Cymraeg i gleifion.

Dywedodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mewn adroddiad na allent gefnogi’r rheolau newydd am na chafwyd digon o amser i'w craffu gan fynd ymlaen i ddweud fod methiant Llywodraeth Cymru i ganiatáu digon o amser yn "fethiant difrifol".

Gwynebodd Gweindiog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, feirniadaeth bellach am beidio mynychu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ateb cwestiynnau’r pwyllgor am y rheoliadau. Gwrthododd hefyd gais aelod o’r pwyllgor, Delyth Jewell AC, i drafod y ffordd ymlaen cyn y ddadl heddiw.

Meddai Dr Dai Lloyd AC Plaid Cymru, 

“Mae’r sector gofal sylfaenol - deintyddion, optegwyr, fferyllwyr a meddygon teulu - yn gyfrifol am hyd at naw deg y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd. Dyma bobl ar eu mwyaf bregus lle mae derbyn triniaeth yn y Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol, er enghraifft, pobl sydd â dementia neu blant ifanc nad ydyn nhw’n medru unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg.

“Addawodd y Llywodraeth llynedd byddai rheoliadau penodol er mwyn sicrhau hawliau i’r Gymraeg ym maes gofal sylfaenol drwy’r contractau gwasanaeth. Ond, rydyn ni yma heddiw yn edrych ar reoliadau nad ydyn nhw'n rhoi dim un hawl statudol o dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg i gleifion.

“Does dim byd yma: dim hawliau, dim disgwyliad, dim newid.

Ychwanegodd Sian Gwenllian AC a gweindiog cysgodol Plaid Cymru dros y Gymraeg,

“Chwarter canrif ers pasio Deddf Iaith 1993, 8 mlynedd ers pasio Mesur y Gymraeg 2011 a sefydlodd statws swyddogol i’r iaith, a 7 mlynedd ers i’r Llywodraeth fabwysiadu ‘Mwy na Geiriau’ oedd yn ei hymrwymo i gynnig gwasanaethau iechyd Cymraeg yn rhagweithiol – dyw’r rheoliadau pitw yma ddim hyd yn oed yn sicrhau'r peth mwyaf sylfaenol â chofnodi angen iaith y claf. Rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn cynllunio gwasanaeth yn Gymraeg.

“Dydy’r rheoliadau ddim yn sicrhau yr un hawl cyfreithadwy o werth ac nid ydyn nhw chwaith yn rhoi sicrwydd i wasanaeth Cymraeg – hyd yn oed pan fo hynny’n fater o angen clinigol. Mae hynny ynddo’i hun yn dangos pa mor ddiffygiol ydy’r rheoliadau yma, a pham bod angen eu dirymu a’u hail-lunio.

 “Mae hawliau pobl mwyaf bregus cymdeithas i gael gwasanaethau iechyd yn eu hiaith eu hun yn y fantol.

“Mae’n bryd am reoliadau llawer cadarnach i warchod ac ehangu hawliau i’r Gymraeg. Maen bryd dirymu’r rheoliadau yma er mwyn sicrhau y bydd y dyletswyddau cryfach yn cael eu hail-lunio, gydag ymgynghori priodol, mewn modd sy’n trin cleifion Cymraeg eu hiaith, ac Aelodau’r Senedd hon sy’n cynrychioli’r cyhoedd, gyda’r parch haeddiannol.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.