Mae Plaid Cymru wedi ychwanegu at alwadau gan elusennau Cymraeg dan arweiniad Oxfam Cymru i Brif Weinidog Cymru annog Prif Weinidog y DU i rannu gwybodaeth a thechnoleg brechlyn covid â gwledydd incwm isel.

Ar hyn o bryd mae'r DU ymhlith rheini sy'n rhwystro symudiadau i atal patentau ar frechlynnau covid.

Dywed llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS y byddai’n “hollol ddisynnwyr” rhwystro mynediad at frechlyn sydd “â’r gallu i ddod â’r pandemig i ben”.

Mae Ms Fychan wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb i’r Senedd yn galw ar Brif Weinidog Cymru i hepgor rheolau eiddo deallusol, gan rannu gwybodaeth a thechnoleg brechlyn â Phwll Mynediad Technoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r datganiad.

Dywedodd Ms Fychan fod gan Lywodraeth Cymru “gyfrifoldeb i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan”, a chyfeiriodd at eu hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gymru fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS,

“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i hepgor rheolau eiddo deallusol a rhannu gwybodaeth a thechnoleg brechlyn â gwledydd sy’n datblygu.

“Mae'n gwbl ddisynnwyr dal y wybodaeth hon yn ôl a rhwystro mynediad at frechlyn sydd â'r gallu i ddod â'r pandemig byd-eang rydyn ni wedi bod yn brwydro ers dros flwyddyn bellach i ben.

“Mae Cymru wedi ymrwymo i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang - mae angen i hyn fod yn fwy na geiriau gwag yn unig ac mae’n rhaid ei drosi’n weithred ar unwaith; rhaid i Lywodraeth Cymru annog y Prif Weinidog i wneud y penderfyniad cywir.”