Plaid Cymru i osod allan bedwar piler i ddiogelu addysg uwch wedi Brexit

uni.jpg

Hywel Williams AS i arwain dadl ar effaith Brexit ar brifysgolion.

Bydd Plaid Cymru yn gosod allan heddiw bedwar piler allweddol i ddiogelu addysg uwch wedi Brexit.

Bydd llefarydd y Blaid ar Brexit yn San Steffan , Hywel Williams AS yn arwain dadl yn Neuadd Westminster heddiw (Mercher 23 Mai 2018) i alw am y canlynol:

  1. Arian y DG a ddaw yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE i’w neilltuo yn ôl angen, a dylid ei ddosbarthu ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru;
  2. I Gymru barhau i gyfranogi mewn partneriaethau a phrosiectau ymchwil cydweithredol rhyngwladol gan gynnwys Horizon ac ERASMUS+ y tu hwnt i 2020;
  3. I fyfyrwyr yr UE barhau i elwa o statws ffioedd cartref, er mwyn caniatáu i brifysgolion Cymru barhau i ddenu myfyrwyr rhyngwladol; ac
  4. For I brifysgolion allu parhau i recriwtio staff rhyngwladol ar y telerau presennol.

 Bydd AS Arfon, y mae ei etholaeth yn cynnwys Prifysgol Bangor, yn gwneud yr alwad yn ystod dadl yn ei enw ar effaith gadael yr UE ar y sector addysg uwch yng Nghymru.

Mae’r sector addysg uwch yn cyfrannu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, rhyw£2.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac yn cael ei gynnal gan ffrydiau cyllido o’r UE. Cynhyrchodd myfyrwyr yr UE yng Nghymru £150.3 miliwn i economi Cymru a thros 1,400 o swyddi cyfatebol llawn-amser ledled y wlad yn 2014/15.

Derbyniodd Cymru dros £4 biliwn mewn cronfeydd strwythurol ers 2000 ac y mae’n derbyn yn sylweddol mwy y pen nac unrhyw wlad arall yn y DG, diolch i bolisi’r UE o seilio fformiwlâu cyllido ar angen.

Cyn y ddadl, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams AS:

“Mae addysg yn sylfaenol i bob agwedd o’n cenedl. Heb addysg, bydd ein heconomi yn dioddef, ein gwasanaeth iechyd yn dirywio a’n dinasyddion yn mynd yn dlotach. Ar y llaw arall, mae sector addysg ffyniannus yn arwain at economi cryfach, GIG effeithiol a safon byw uwch. Dylai diogelu dyfodol ein sector addysg uwch fod yn flaenoriaeth uchel i’r llywodraeth.

“Bydd gadael yr UE yn rhoi mwy o bwysau ar ein sefydliadau addysg uwch sydd y wynebu colli incwm o grantiau UE a chyllid ymchwil yn ogystal ag o’r miloedd o fyfyrwyr yr UE sy’n astudio yng Nghymru bob blwyddyn.

“Codwyd ein pedwar piler i amddiffyn addysg uwch wedi Brexit i liniaru’r effaith gaiff gadael yr UE ar ein prifysgolion.

“Mae’n hanfodol fod cronfa ffyniant cyfun y DG yn adlewyrchu strwythurau cronfeydd strwythurol yr UE sy’n seiliedig ar angen, a fu mor bwysig i Gymru dros y ddwy ddegawd a aeth heibio. Mae’n hollbwysig hefyd i ddosbarthu a dyrannu’r cronfeydd hyn yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac nid gan fiwrocrat pellennig yn San Steffan.

“Dylai’r llywodraeth genedlaethol a Llywodraeth y DG fod yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau y byddwn yn dal i allu gweithio ar y cyd, mewn partneriaethau rhyngwladol a phrosiectau ymchwil megis Horizon ac ERASMUS wedi i ni adael. Mae gwledydd eraill yn gwneud hyn er nad ydynt yn aelodau o’r UE a dylai Cymru ddilyn eu hesiampl.

“Rhaid i ni sicrhau y gellir denu myfyrwyr a staff yr UE o hyd i fyw, gweithio ac astudio yng Nghymru a chyfrannu at ein heconomi. Ni allwn fforddio colli’r gwerth y mae ymchwilwyr a staff yr UE yn ddwyn i sector addysg uwch Cymru, y mae llawer ohonynt wedi cefnogi hynt prifysgolion Cymru i fyny’r tablau cynghrair rhyngwladol .

“Mae llawer o’r materion hwn yn annatod oddi wrth ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau a thra bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro i’n cadw yn y naill a’r llall, mae ar brifysgolion Cymru angen sicrwydd, os llwyddwn neu beidio yn y nod hwnnw, y cedwir y pedwar piler hwn yn eu lle.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.