Plaid Cymru'n cyhuddo Llywodraeth y DU o ddadfreinio miloedd o bleidleiswyr o'r UE

20190502_PlaidCymruEULaunch_29.jpg

Mae gwybodaeth a dderbyniwyd gan Blaid Cymru yn dangos fod miloedd o bleidleiswyr o'r UE sy'n byw yng Nghymru wedi cael eu dadfreinio yn yr etholiad Ewropeaidd.

Yn dilyn cau cofrestru pleidleiswyr ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd, gwnaeth Blaid Cymru gais am wybodaeth ynghylch dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru gan bob un o awdurdodau lleol Cymru. Gwybodaeth yw hynny sydd ar gael i bob plaid wleidyddol i’w galluogi i gysylltu â phleidleiswyr.

Hyd yn hyn, mae hanner o’r awdurdodau lleol wedi ymateb. Mae’r wybodaeth yn dangos nad yw 78% o bleidleiswyr yr UE sy’n byw yn yr 11 awdurdod lleol hynny wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad Ewropeaidd sy’n digwydd ddydd Iau 23 Mai.

Mae Plaid Cymru’n dweud y gwnaeth camdrafod Llywodraeth y DU o Brexit arwain at awdurdodau lleol fod yn brin o amser i ysgrifennu at ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru i ofyn iddynt a oeddent am bleidleisio yng Nghymru neu yn eu Haelod-Wladwriaeth gartref.

Ar ôl i Weinidog Swyddfa’r Cabinet David Lidington AS gadarnhau y byddai’r DU yn cymryd rhan yn yr etholiad Ewropeaidd ar y diwrnod y caeodd cofrestru i bleidleisio, rhybuddiodd prif ymgeisydd Plaid Cymru Jill Evans: “Mae hyn yn gam sinigaidd iawn, a fydd o bosib yn gadael miloedd wedi eu dadfreinio oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod fod etholiad yn digwydd.”

Fel arfer, byddai awdurdodau lleol wedi ysgrifennu at ddinasyddion yr UE i ofyn iddynt gofrestru i bleidleisio os oeddent yn bwriadu pleidleisio yng Nghymru. Oherwydd roedd Llywodraeth y DU mor benderfynol na fyddai’r DU yn cymryd rhan yn yr etholiad Ewropeaidd, ni wnaeth awdurdodau lleol hynny.

Pan ddaeth yn amlwg y byddai’r DU yn cymryd rhan yn yr etholiad Ewropeaidd wedi’r cyfan, doedd gan awdurdodau lleol fawr o amser i gysylltu â dinasyddion yr UE.

Yng Nghaerdydd, dylai 8,559 o ddinasyddion yr UE fod wedi gallu pleidleisio yn yr etholiad Ewropeaidd. Dangosodd gwybodaeth gan Gyngor Caerdydd mai dim ond 16% ohonynt oedd wedi cofrestru.

Tra yn Sir Gâr, dylai 1,781 o ddinasyddion yr UE fod wedi gallu pleidleisio. Dangosodd gwybodaeth gan Gyngor Sir Gâr yr oedd 38% o’r rheini wedi cofrestru.

Dywedodd prif ymgeisydd Plaid Cymru Jill Evans ASE:

“Mae’n warth fod cynifer o ddinasyddion yr UE sy’n byw yma yng Nghymru wedi cael eu dadfreinio oherwydd camdrafod Llywodraeth y DU o Brexit.

“Yn yr 11 o awdurdodau lleol a ddarparodd wybodaeth, mae’n anhygoel mai dim ond 22% o ddinasyddion yr UE sy’n byw yma sydd wedi cofrestru i bleidleisio.

“Pe na bai Llywodraeth y DU wedi glynu mor dynn at ei mantra na fyddai’r DU yn cymryd rhan yn yr etholiad Ewropeaidd, fyddai’r bobl hyn heb gael eu dadfreinio.

“Yn hytrach, dyma ni, gydag o bosib 78% o ddinasyddion yr UE sy’n byw and gweithio yma yng Nghymru, ac sy’n cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig, heb lais a heb bleidlais.

“Boed yn bwrpasol neu drwy anallu, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ein system ddemocrataidd yn destun sbort.

“Yn y cyfamser, mae pleidiau San Steffan mewn llanast llwyr, a’r unig opsiwn nawr i anfon Brexit yn ôl at y bobl mewn refferendwm Gair Olaf.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n ffafrio Aros sy’n sefyll yn yr etholiad Ewropeaidd sydd yn gallu ennill sedd ddydd Iau.

“Rydym yn apelio i bawb sydd eisiau cynnal aelodaeth Cymru o’r UE i’n cefnogi ni er mwyn curo Brexit.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.