Galw ar ymyraeth Llywodraeth ar sgandal treth ail gartrefi

151019.jpg

Perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi trwy wendid yn y system

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu i gau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartref osgoi talu treth.

Trwy gofrestru eu hail eiddo fel busnes bach, gall perchnogion ail dai ar hyn o bryd osgoi talu treth gyngor a derbyn rhyddhad llawn o gyfradd busnes.

Mae’r anghysondeb hyn yn ‘sgandal’ yn ôl yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru Sian Gwenllian a ddywedodd fod ‘rhywbeth o’i le ar sefyllfa’ lle mae dwy fil o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yng Ngwynedd tra fod llawer o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu treth cyngor.

Dywedodd Ms Gwenllian y gallai’r arian a gollir - cyfanswm o dros £ 1.7 miliwn y flwyddyn - yn ogystal â phremiwm y tŷ cyngor, fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu tai fwy priodol i bobl leol yng Ngwynedd.

Awgrymodd yr Aelod Cynulliad y gallai Llywodraeth Cymru gau’r bwlch trwy addasu Adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Meddai AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian,

“Mae perchnogaeth ail gartref wrth wraidd twf mewn anghydraddoldeb cyfoeth. Mae ymchwil yn dangos bod naw o bob deg perchennog eiddo ychwanegol yn hanner uchaf y dosbarthiad cyfoeth. Ond yng Nghymru, mae perchnogion ail gartref wedi dod o hyd i ffordd i arbed arian!

“Mae rhywbeth o’i le ar sefyllfa lle mae dwy fil o bobl yn byw mewn amodau gwael tra bod mil allan o bum mil o berchnogion ail gartrefi yn yr un sir yn chwarae’r system er eu budd eu hunain ac yn osgoi talu treth cyngor.

“Mae cyfanswm o dros £1.7 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli yng Ngwynedd yn unig - yn ogystal â phremiwm treth y cyngor, a fyddai’n dod â miliynau ychwanegol. Arian a allai fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu tai mwy priodol i bobl leol yng Ngwynedd.

“Mae’r arian a gollir oherwydd y bwlch hwn yn effeithio ar bob awdurdod ledled Cymru a thrwy ganiatáu i hyn barhau, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ym mhocedi ail berchnogion tai yn hytrach na defnyddio’r arian hwnnw i wella bywydau pobl leol.

“Yr ateb symlaf yw addasu Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a disodli’r meini prawf cyfredol gyda’r egwyddor y dylai pob eiddo a ddefnyddir fel eiddo domestig aros fel eiddo domestig. Gallem hefyd ehangu'r categori “preswyl” o fewn y system gynllunio.

“Mae angen gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad oherwydd bodolaeth nifer cynyddol o ail gartrefi. Mae hyn yn achosi argyfwng tai mewn llawer o gymunedau yng Nghymru. Mae angen dileu'r anghysondeb yn y system yng Nghymru - unwaith ac am byth.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.